Ö÷²¥´óÐã

Carolyn Hitt

Golygydd Radio Wales a Chwaraeon Ö÷²¥´óÐã Cymru

Carolyn Hitt

Ganed Carolyn Hitt yn Llwynypia yn y Rhondda, bu’n astudio Saesneg ym Mhrifysgol Rhydychen ac ar ôl ennill Tystysgrif Newyddiaduraeth Newyddion Rhanbarthol Thomson fel gohebydd dan hyfforddiant ar y Neath Guardian a’r Merthyr Express, dechreuodd ei gyrfa yn y Western Mail.

Yno, daeth yn Olygydd Nodweddion ac enillodd Awdur Nodwedd Cymreig y Flwyddyn, cyn symud i ddarlledu, gan ymuno â’r cwmni cynhyrchu annibynnol Presentable.

Yn 2012, cydsefydlodd Parasol Media, ac roedd ei gynyrchiadau’n cynnwys Only Connect ar Ö÷²¥´óÐã2 a nifer o raglenni dogfen, hanes, chwaraeon, cerddoriaeth ac adloniant a phrosiectau aml-gyfrwng.

Mae Carolyn wedi cyflwyno rhaglenni ar gyfer Ö÷²¥´óÐã1, Ö÷²¥´óÐã2, Ö÷²¥´óÐã Cymru, ITV Cymru, Radio 4 a Radio Wales, ac fel cynhyrchydd a enwebwyd ar gyfer Bafta Cymru a Gwobrau’r Cyfryngau Celtaidd mae hi wedi gweithio gyda rhai o enwau mwyaf Cymru, gan gynnwys y Fonesig Sian Phillips, Gaby Logan, Max Boyce, Cerys Matthews, Eve Myles, Syr Gareth Edwards a’r Farwnes Tanni Grey Thompson.

Mae hi wedi darparu rhai o ffigurau cynulleidfa mwyaf gan Ö÷²¥´óÐã Cymru Wales drwy sioeau teledu adloniant ar raddfa fawr ac mae hi wedi creu’r prosiect cyfryngau aml-lwyfan, Hidden Heroines, a helpodd i sicrhau’r cerflun cyntaf o fenyw benodol yng Nghymru.

Fel gweithiwr annibynnol, roedd gan Carolyn berthynas greadigol â Radio Wales am fwy nag 20 mlynedd, gan gynhyrchu llinynnau byw dyddiol ac ar y penwythnos, rhaglenni dogfen, cyfresi ffeithiol, sioeau comedi a detholiadau thematig o'r amserlen gyfan.

Mae hi wedi cyfuno ei gyrfa ym maes darlledu â newyddiaduraeth ysgrifenedig, gan gyfrannu at The Guardian, The Daily Telegraph a nifer o gylchgronau, ac am 30 mlynedd hi oedd colofnydd wythnosol arobryn y Western Mail. Yn 2020, enillodd wobr Colofnydd y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwasg Ranbarthol Cymdeithas Golygyddion y DU am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Mae hi wedi bod yn arloeswraig mewn cyfryngau chwaraeon. Ym 1998, Carolyn oedd y fenyw gyntaf i ennill Newyddiadurwr Chwaraeon y Flwyddyn Cymru ac aeth ymlaen i ennill y wobr dros y DU gyfan. Hi hefyd oedd y fenyw gyntaf i ennill gwobr Newyddiadurwr y Flwyddyn The Welsh Sports Hall of Fame, ac yn 2016 hi oedd y fenyw gyntaf i ennill gwobr Newyddiadurwr Chwaraeon y Flwyddyn Cymdeithas Golygyddion Gwasg Ranbarthol y DU.

Mae hi wedi ysgrifennu ar rygbi ar gyfer y Daily Telegraph,  L’Equipe ac Undeb Rygbi Cymru. Yn 2012, cyhoeddodd ei llyfr chwaraeon cyntaf – Wales Play In Red, a oedd yn cynnwys cyfweliadau gyda rhai o enwau mwyaf y gêm ac enwogion sy’n cefnogi rygbi. Yn 2015, cyhoeddodd ei hail lyfr, Welsh Rugby in the 70s.

Mae hi wedi creu toreth o raglenni chwaraeon, gan gynnwys hanes y Gemau Olympaidd, Gemau’r Gymanwlad, Gemau’r Chwe Gwlad a Llewod Prydain ac Iwerddon a fformatau adloniant chwaraeon teledu i ddathlu Cwpan Rygbi’r Byd ac i nodi pen-blwydd Syr Gareth Edwards yn 70 oed. Yn 2019, cyflwynodd y rhaglen ddogfen nodedig ar Ö÷²¥´óÐã Wales The Rugby Codebreakers ac mae hi wedi cyfrannu at Scrum V, Slammed a chyfres fyd-eang Amazon Prime, The Story of Rugby, yn ogystal â siarad am rygbi ar Radio Wales, Radio 4 a Five Live.

Ond un o’r pethau y mae’n fwyaf balch ohonynt o hyd yw curo Gary Barlow pan oedd ef yn 15 oed, yng nghystadleuaeth ysgrifennu carolau ysgolion y Ö÷²¥´óÐã, A Song for Christmas, yn 1986...nid fod hynny wedi dal Gary yn ôl! Gan fod y cynhyrchydd yn ddigon caredig i gynnig profiad gwaith i Carolyn yn y Ö÷²¥´óÐã tra roedd yn fyfyrwyr, bu hynny'n sbardun a daniodd ei dyheadau i ddarlledu.

Ym mis Medi 2022 ymunodd Carolyn â Ö÷²¥´óÐã Cymru Wales fel Golygydd Radio Wales a Chwaraeon.

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: