Ö÷²¥´óÐã

Rhuanedd Richards

Cyfarwyddwr, Ö÷²¥´óÐã Cymru

Rhuanedd Richards

Fel y Cyfarwyddwr Ö÷²¥´óÐã Cymru, Rhuanedd sy’n arwain Timau Gweithredol Ö÷²¥´óÐã Cymru Wales a hi sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol dros y strategaeth cynnwys a’r blaenoriaethau golygyddol ar gyfer Ö÷²¥´óÐã Cymru ar draws yr holl lwyfannau a gwasanaethau cyfryngau – radio, fideo ac ar-lein – yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Dechreuodd Rhuanedd ei gyrfa gyda Ö÷²¥´óÐã Cymru fel newyddiadurwr, cyn cyflwyno rhai o’i raglenni newyddion a gwleidyddol blaenllaw ar y radio a’r teledu. Yn ystod blynyddoedd cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, roedd hi’n wyneb cyfarwydd i wylwyr wrth adrodd ar y datblygiadau gwleidyddol ym Mae Caerdydd.

Ar ôl gadael y Ö÷²¥´óÐã yn 2007, bu hi’n gweithio fel cynghorydd arbennig i Lywodraeth Cymru, fel Prif Weithredwr Plaid Cymru, ac yn olaf fel cynghorydd polisi i Lywydd Senedd Cymru.

Yn 2018, dychwelodd Rhuanedd i’r Ö÷²¥´óÐã gan ymgymryd â rôl golygydd Radio Cymru a Cymru Fyw, cyn cael ei phenodi’n Gyfarwyddwr Cynnwys yn 2021.

Yn wreiddiol o Gwm Cynon, aeth Rhuanedd i Ysgol Gyfun Rhydfelen. Aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth a chafodd ysgoloriaeth gan y Ö÷²¥´óÐã i astudio diploma ôl-radd yn Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd. Mae Rhuanedd bellach yn byw ym Mhontypridd gyda’i theulu.

 

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: