Fi a Cerys Matthews!
Nath dydd Mawrth ddim cychwyn yn dda iawn. Ar ol dim ond pedair awr o gwsg nes i gychwyn ar y daith o Gaerdydd i Sir Benfro i gyfweld â Cerys Matthews. Mi o'n ni'n gwisgo crys pinc oedd i fod yn wyn, ond mi oedd rhywbeth ofnadwy wedi digwydd i'r crys yn y peiriant golchi.
Mi oedd y tywydd yn ofnadwy ar hyd yr M4, ond wrth i mi gyrraedd Caerfyrddin, mi gododd y cymylau a mi ddaeth yr haul allan, a mi oeddwn i'n gwybod y byddai'n braf yn Sir Benfro.
Mi oeddwn i wedi trefnu cyfarod â Cerys yn nhafarn y Sloop, Porthgain, ac am 'change' mi oeddwn i ddeg munud yn fuan yn cyrraedd. Pan wnaeth Cerys gerdded i fewn i'r dafarn mi oedd hi'n edrych yn 'fab' yn ei du, gyda boots uchel du a menyg lledr du.
Mi oedd Cerys yn gyfelligar iawn, mi oedd hi'n agored iawn yn ystod y cyfweliad yn annwyl, a doniol. Am hanner awr mi oedd y ddau ohonom yn sgwrsio am bob dim o Elvis Presley, i beth ddigwyddodd yn y ''jungle' i'w pherthynas hi efo Marc Bannaman i'w cherddoriaeth hi.
Yn groes i'r adroddiad a ymddangosodd yn y Daily Star y diwrnod wedyn, mi oedd Cerys (a fi) yn yfed te drwy gydol y cyfweliad.
Wedi'r cyfweliad mi aethon ni allan i gymeryd cwpwl o luniau o'r ddau ohono ni efo'n gilydd. Mi oedd rhaid i mi adael yn syth wedyn i fynd yn ôl i Gaerdydd, gan adael Cerys yn cael tynnu mwy o luniau. Mi oedd hi'n swnio fel ei bod hi mewn lle hapus yn ei bywyd, a mae h'n gyffrous iawn am ei thaith a'r caneuon Cymraeg ma' hi'n wrthi'n ei sgwennu ar hyn o bryd.
Bydd cyfle i glywed y cyfweliad ar C2 nos Iau Ionawr 31 rhwng 11 a 1 o'r gloch y bore.
Dwi off i'r gogledd bore fory ar gyfer cymeryd rhan ar Uned 5 gyda fy hen ffrindiau Dylan Ebenezer a Daniel Glyn. Gewch chi glywed sut aeth hi wythnos nesaf!
Cysgwch yn dawel, a nos da!
X