Sesiwn Ryan Kift ar y ffordd...
Ma hi'n 11.25am a dwi newydd ddeffro Ryan Kift. "Nes i mond i gysgu dwyawr yn ôl" medda fo. Roc a rol…
Ffonio fo oeddwn i i gadarnhau i fod o'n dod i mewn heno i raglen Lisa i wneud sesiwn acwstic cynta'r flwyddyn. Dyma'r trefniadau - mi fydd Emyr y dyn sain yn cyrraedd tua 6pm i baratoi'r stiwdio, yna 8pm soundcheck hefo fo a Sian - just dau lais a guitar felly fe ddylai fod yn eitha hawdd. Bydd Lisa wedi cyrraedd ers ryw awr bellach, ac fe awn ni dros drefn y rhaglen hefo Ryan - ond o'i nabod o, wnaiff y trefniadau ddim para'n hir unwaith y bydda ni ar awyr.
Da ni weithia'n recordio'r sesiyna acwstic ymlaen llaw - rhai chydi yn fwy cymhleth yn dechnegol, fel Sibrydion, neu sesiwn ola KAFC oedd angen ei recordio cyn iddyn nhw fynd ar y daith ola - ond fe fydd hon yn gwbl fyw! Felly dyna ni, cofiwch am y sesiwn - heno am 10pm
DIWEDDARIAD: Mae fideo o Ryan Kift yn y stiwdio yn canu "Glaw" ar wefan C2 nawr!