Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mr a Mrs Dodd-Wise

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Magi Dodd Magi Dodd | 16:53, Dydd Iau, 27 Mawrth 2008

Helo bobol,

Dyma e-gofnod Mr a Mrs Dodd-Wise - y gwr a gwraig radio a.k.a Glyn a Magi. Ryn ni wedi penderfynu sgwennu e-gofnod a y cyd heddiw. Ryn ni wrthi'n paratoi ar gyfer ein rhaglen nos Iau. Ma Mirain Davies yn dod mewn i adolygu'r ffilm Meet The Spartans. Ma Magi yn meddwl fydd y ffilm yn rybish, ond Glyn ar y llaw arall yn meddwl fydd hi'n dda... sgwn i be fydd barn Mirian?

Dyn ni ddim wedi gweld Meet The Spartans, ond ma Glyn newydd weld y ffilm 10,000 BC. Odd e'n reit dda. 6/10
Ma Magi newydd fod yn gweld The Orphanage. Odd e bach o sioc gweld mai ffilm Sbaeneg gyda is-deitlau Saesneg oedd hi, ond ar ol dod yn gyfarwydd â hynny, roedd hi'n ffilm dda iawn. Spooky - ond hefyd gneud ichi feddwl. Chydig bach fel Sixth Sense a The Outsiders. 7.5/10

Ryn ni newydd fod yn recordio'r rhaglen gwis 100% gyda Huw Llywelyn Davies, Gareth Charles a Dylan Ebenezer. Roedd y ddau ohono ni yn poeni ar y dechre achos dyn ni ddim yn gwbod bradd dim am chwaraeon - ond roedd e'n fab! Gethon ni gymaint o hwyl. Nath Ebzie a Charlo helpu ni - ond ware teg i'r ddau ohono ni - netho ni lwyddo ateb oleia 1 cwestiwn yr un!

Pwy nath ennill? Wel - newn ni ddim sbwylio pethe i chi - fydd rhaid i chi wrando nos Wener am 6 or gloch ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru.

Tra xxxx

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.