Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gigs gwych Gareth

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw C2 | 12:28, Dydd Iau, 10 Ebrill 2008

Mae'n anhebygol y bydd na lawer sy'n darllen hwn wedi clywed am (doeddwn i ddim nes i Owen Recordia Cob fy nghyflwyno iddi 'chydig yn ôl) ond mi oedd hi yn y Galeri neithiwr ac mi oedd hi'n wych.

Mae hi'n dod o Austin, Texas, cartref , ac mae hi wedi recordio ac ysgrifennu hefo rhai o gewri canu gwlad America - Willie Nelson, Emmylou Harris, Waylon Jennings a Townes Van Zandt. Gig syml oedd hi - Kimmie yn canu ac ar y gitar acwstic, ei gŵr Joe ar y bass a'i mab Gabriel ar y gitar, ac wir yr, fo oedd y gitarydd gora i mi ei weld erioed. Mi oedd o'n anhygoel, yn gynnil yn ei chwarae, ond yn medru gwneud i un gitar acwstic swnio mor amrywiol - sŵn pedal steel bron ar adegau, sŵn mandolin-aidd, a sŵn mwy cras ar adegau. Gwych.

Ryw bythefnos yn ôl fues i'n y Fic ym Mhorthaethwy yn gweld 9 Bach a Gareth Bonello - y noson ar ôl recordio sesiwn acwstic hefo nhw ar gyfer rhaglen Lisa Gwilym. Mi oedd hono hefyd yn noson wych - Gareth Bonello yn gwneud set syml o ganeuon gwerin a stwff oddiar EP The Gentle Good, ond mae ei waith gitar yn wefreiddiol. 9 Bach wedyn yn adeiladu sŵn mewn haenau - y drums a'r gitar yn cael eu defnyddio nid yn unig i gadw rhythm ond i greu awyrgylch bron yn hudolus o gwmpas rhai o'r caneuon. Dwi di gweld lot o artistiaid arbennig iawn yn y Fic dros y blynyddoedd dwetha - , , , ac ac mi oedd The Gentle Good a 9 Bach cystel cerddorion, cyfansoddwyr a pherfformwyr ac unrhywun.

Yr unig beth dwi di sylw am artistiad o America - ac artistiaid canu gwlad yn arbennig - ydy bod nhw'n anhygoel o dda ar lenwi rhwng caneuon gyda straeon doniol a diddorol am y profiada' ma nhw'n eu cael wrth recordio, perfformio a teithio. Bysa'n gret gweld pobl fel Gai Toms, Cowbois Rhos Botwnnog, Gwyneth Glyn neu Fflur Dafydd o flaen yr un gynulleidfa yn gwneud yr un math o beth

Y penwythnos yma, dwi'n edrych ymlaen i recordio sesiwn acwstic hefo MC Mabon fydd yn cael ei ddarlledu ar raglen Lisa nos Wener Ebrill 18.

A heno am 10pm bydd Owain Schiavone yn datgelu pwy fydd yn chwarae yn Gig Fawr Bont 2008 ar raglen Lisa.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.