Sesiynau Datblygu
Helo bobl
Wythnos ddifyr arall yma yn gweithio ar raglen Lisa ym metropolis Bangor. Da ni wedi bod yn recordio cyfweliad estynedig hefo Emyr Glyn Williams - Emyr Ankst - am y CD newydd Datblygu - The Peel Sesions 1987-1993. Roedd hi'n bleser gwrando ar Emyr yn siarad mor frwdfrydig a deallus am fand sydd yn amlwg yn hynod agos at ei galon. Mae'r CD wedi cyrraedd y swyddfa ers ryw bythefnos - ac mae'n wych, yn adlewyrchu egni'r band tra'n perfformio'n fyw. Mae yna eironi hyfryd yn un darn, ble mae Dave R Edwards yn cyflwyno Dim Deddf Dim Eiddo fel hyn: "Helo. Right, here's a free LP saves you buying CDs, just get your pause buttons, costs nothing, get your pause buttons and here's a song which translates No Law, No Property - Dim Deddf Dim Eiddo. Co ni'n mynd".
Mae'r CD allan Mai 5ed ar ankstmusic, hefo 20 trac gwych. Prynwch hi. I glywed cyfweliad Lisa hefo Emyr, gwrandewch ar C2 nos Iau am 10pm.
Hefyd ar raglen Lis nos Iau, trac newydd exclusive (pre-master) gan David Mysterious. Hon fydd y tro cyntaf i unrhywun glywed unrhywbeth oddi ar albym newydd David Mysterious, felly cofiwch wrando am ragflas o'r album Jongleur De Morte.