Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dewin Sain

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw C2 | 12:45, Dydd Mawrth, 22 Ebrill 2008

Mae gen i 'chydig bach o hangover bore 'ma oherwydd neithiwr mi fues i yn 'do' gadael Meredydd Morris, prif beirianydd sain Bangor. Mae Mered yn dipyn o arwr yma yn y Ö÷²¥´óÐã yn Bangor - am ei waith cymysgu a recordio, ac am ei dalent fel gitarydd.

Mered

Fe ymunodd a'r Ö÷²¥´óÐã yn syth ar ol gadael coleg ar ol gwneud gradd mewn cyfrifeg (dyna ydy accountancy yn Gymraeg?!) yn 1976, ar adeg pan oedd gan y Ö÷²¥´óÐã enw am fod yn lle "cymdeithasol" iawn i weithio ynddo. Roedd gan Mered straeon di-rif neithiwr am antics rhai o'r hen hacs yn y stafell newyddion oedd, ar ddiwrnod tawel, yn ei throi hi am dafarn y Glan ym Mangor toc wedi hanner dydd. Mae'n debyg fod barman y Glan wedi dod i ateb y ffon "Hello, Newsroom", cymaint oedd y galwadau i staff y Ö÷²¥´óÐã yno! Yn ngeiriau un neithiwr, roedd y stafell newyddion, "let's face it, completely out of control".

Fel nes i son, mae Mered hefyd yn dipyn o gitarydd. Fo sy'n chwarae lot o'r gitar ar album Meic Stevens "Gitar Yn Y Twll Dan Staer", ar ganeuon fel "Arglwydd Penrhyn", ac mae hanes recordio'r album yn wych. Roedd cynhyrchydd yr album wedi bwcio stiwdio yn Sain am wythnos, ac am ryw reswm gwallgo, wedi talu ffi i Meic ymlaen llaw. Wel, welwyd mo Meic am ddiwrnodau, a'r band yn chwilio amdano o dafarn i dafarn. Fe ddaeth Mered o hyd iddo yn y diwedd yn yr Anglesey yng Nghaernarfon, ac roedd Meic nid yn unig wedi wedi gwario'r 'advance' erbyn hynny, ond hefyd wedi gwerthu un o gitars Mered i gael mwy o bres!!! Doedd pethau fawr gwell ar ol cyrraedd y stiwdio. Dyma Meic yn dangos i Mered sut oedd o am iddo chwrae un riff, ac yna dechra recordio gan ddweud wrth Mered "play it like that or I'll strangle you..."

Ar achlysur arall, roedd Mered wedi menthyg gitar (wahanol) i Meic. Fe ddaeth y gitar yn ol y tro yma, ond heb y cas. Fe ofynodd Mered lle oedd o, ac ateb Meic oedd "Ma fe da Mad Ken yn Aber". Gan mai'r unig berson arall i Meic ei alw'n wallgof oedd "Mad" Syd Barrett o Pink Floyd, fe benderfynodd Mered adael cas lle oedd o...

Mae Mered yn un o'r bobl mwyaf diymhongar dwi wedi gweithio hefo nhw erioed - yn dawel ond hynod dalentog, a bydd hi'n chwith iawn hebddo. Fo beirianodd sesiynau Georgia Ruth Williams, 9 Bach a Gareth Bonello yn ddiweddar, felly ewch i wrando ar sesiyna recordio ola Meredydd Morris i'r Ö÷²¥´óÐã!

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.