Bwletin Blaenau: Rhys Mwyn, Albym Frizbee, Gŵyl Car Gwyllt
Ma hi i weld yn wythnos Blaenau Ffestiniog yma ar C2!
Nos Fercher dwetha, roedd Rhys Mwyn yno mewn rhaglen arbennig yn edrych ar fandiau'r dref.
Ddoe fe ddaeth newyddion gwych gan Frizbee - maen nhw newydd orffen recordio'r albym, a'r peth cyntaf wnaeth Ywain Gwynedd a'r hogia oedd gyrru copi o'r caneuon i Lisa Gwilym. Bydd cyfle i glywed dwy gân heno am 10pm. Mae'r album yn ddi-enw ar hyn o bryd, ond mae Frizbee yn gobeithio ei ryddhau cyn diwedd y mis.
A mwy fyth o newyddion o Blaenau... fe fydd yn digwydd ar Fehefin 21 o gwmpas tafarndai'r dref. Yn perfformio - Cowbois Celtaidd, Meic Stevens, Gai Toms, Y Rei, Dybl-L, Gwibdaith Hen Frân a Cowbois Rhos Botwnog. Fel y llynedd, bydd y cwbl am ddim!