Noson wych efo Dave a Pat
Helo bawb, a sori bod fi heb blogio ers hydoedd.
Ma album Datblygu - The Peel Sessions allan heddiw ar label . Nos Wener Ebrill 25 mi oedd 'na noson lansio'r CD yn y Drwm yn Aberystwyth, a'r noson cyn mynd, mi oedd Emyr Glyn Williams o Anskt hefo fi'n son am y CD, ac mi fedrwch chi glywed y sgwrs ges i hefo fo yn fama.
Ond nôl at y noson, ac mi oedd hi'n noson wych - a noson wna i fyth ei anghofio achos ges i gyfarfod hefo David R Edwards a Pat Morgan o'r grwp. Noson o ffilmie oedd hi - natho nhw ddangos ffilm Marc Evans - ABC Datblygu - sy' jyst yn hollol anhygoel ac wedyn chwech o ganeuon y grŵp - yn fideos neu berfformiade byw, ac eto roedd rheini'n anhygoel. Wedyn natho ni wylio ffilm fer newydd ma Pete Telfer wedi ei wneud yn dilyn hanes Dave a Pat yn mynd nôl i'r stiwdio i recordio'r sengl newydd Cân y Mynach Modern, a chi'n gwybod be? Eto, hollol wych achos mae'r gân ma just mor deimladwy, a fel se chi'n disgwyl gan Dave, mae'r geirie mor onest a mor ddidwyll. I ddeud y gwir mi oedd hi'n noson eitha emosiynol; nath o jyst cadarnhau pam fod Datblygu'n grwp mor arbennig.
Mae'r albym allan heddiw, a nos fory am 10pm bydd Huw S yn siarad hefo Dave ar C2, ac hefyd mi fydd na uchafbwyntie gen i am 8.25pm ar Sioe Gelf ar S4C, eto nos fory.
Hwyl am y tro, Lis