Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cyfeiliant o Fangor i Aberteifi

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw C2 | 10:19, Dydd Mawrth, 13 Mai 2008

Mae hi'n ryw dair awr a chwarter o siwrne i Aberteifi o Fangor... digon o amser i wrando ar lot o gerddoriaeth ddiddorol. Roeddwn i, Rhys Mwyn, ac Irfon Jones y bos, yn mynd i Aberteifi i recordio hefo Dave R Edwards, Malcolm Neon/Gwyon a chriw Ail Symudiad ar gyfer rhaglen nesa Rhys Mwyn sy'n mynd allan nos fory yma am 10pm.

Theme Time Hour With Your Host Bob DylanFelly, beth oedd ar y stereo? Wel, i ddechrau, fe ddewisodd Irfon CD "Theme Time Hour With Your Host Bob Dylan" - sef (yn amlwg) CD o ddewisiadau cerddorol Bob Dylan o'i raglen radio wych. Ma hwn yn gasgliad arbennig o dda - ac mae na Gymro arno fo - .

Country Got SoulDewis Rhys Mwyn oedd "Country Got Soul" - CD aml-gyfrannog sydd wedi cael ei roi at ei gilydd gan gyfaill i Rhys sef Jeb Loy Nichols. Ma rhai o'r lleisiau ar y casgliad yma yn anhygoel - prynwch o os gewch chi gyfle.

A'm dewis i? CD o raglen Lisa bnawn Sadwrn hefo dyddiadur Lleuwen Steffan o Mecsico. Sad ond gwir.

Hwyl, Gar

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.