O Bethesda i Mecsico
Ryw dri mis yn ôl ges i neges text gan Lleuwen Steffan yn deud "Dwi di cael cynnig 3 gig ym Mecsico mis Ebrill. Ti ffansi dod hefo ni i recordio?!".
Yr ateb onest oedd y byddwn i wrth fy modd dod, ond y byddai wedi bod yn eitha anodd perswadio'r bos y byddai tair wythnos ym Mecsico hefo Lleuwen yn waith go iawn. OND mi oeddwn i wir am gael rywfaint o hanes y gigs - wedi'r cyfan, pa mor aml mae artistiaid o Gymru yn gwneud gigs ym Mecsico? Felly dyma feddwl am ryw fath o syniad - menthyg peiriant recordio i Lleuwen i fynd hefo hi, ac iddi recordio ryw fath o ddyddiadur o'r gwyliau/gigs. Fe gewch chi glywed y dyddiadur ar raglen Lisa nos Wener yma am 10pm.
Dwi hefyd wedi treulio lot o amser ym Methesda yn ddiweddar yn recordio rhaglen Rhys Mwyn sy'n mynd allan heno am 10pm. Da ni wedi bod yn stiwdio Bryn Derwen hefo Dave Wrench, yn nhŷ Lisa Jên Brown yn Gerlan, ac yn nhŷ Hefin Huws sy ar stryd fawr Pesda. Lot o hwyl, lot o chwerthin, ond hefyd lot o hanes difyr ar yr ardal. Cofiwch wrando ar Bethesda heno hefo Mr Mwyn, a Mecsico nos fory ar raglen Lis. Hwyl, Gareth