Albym newydd Gai Toms
Hawddamor
Nos Iau yma mae Gai Toms yn dod i fewn at Lisa i son am ei album newydd "ecogysyniadol" (gobeithio mod i wedi sillafu hynny'n iawn...). Da ni wedi bod ddigon lwcus i dderbyn y copi cyntaf o'r album, ac mae o'n hollol wych. Does na ddim 'Sunshine Dan' na "wbanCrw' arni - mae'r caneuon i gyd yn gymharol ddwys. Dyna sy'n taro rhywun yn syth; mae geiriau Gai yn hynod bwerus, a dyna lle mae'ch sylw chi'n mynd, at y geiriau. Mae'n album protest, yn album wleidyddol ac mi fydd hi'n ddifyr iawn clywed Gai yn son am ei recordio hefo Lis.
Gyda'r llaw, fe ofynodd Gai am ddyfyniad Cymraeg a Saesneg i gan Lis i fynd ar stwff cyhoeddusrwydd yr album, a dyma oedd gan Lis i'w ddeud:
Mae Gai Toms wedi bod yn un o gyfansoddwyr mwya didwyll a diddorol Cymru ers blynyddoedd, ond mae'r prosiect newydd 'gwyrdd' yma wedi rhoi egni a phwer newydd i eiriau Gai. Dyma album llawn llinellau crafog a chraff - album wleidyddol wreiddiol. Gwrandewch yn ofalus, a mwynhewch!
One of Wales' most interesting and profound lyricists has found a powerful new voice. Gai Toms' "environmental" album has brought a renewed focus and fierceness to his music - buy it.
Dyma hefyd glawr yr album. Yng ngeiriau Gai - "Mae rhaid plygu fo iddo neud sens".
Hwyl, Gar