Steddfod a Siopa!
Helo peeps.
Wedi blino heno achos mae di bod yn bythefnos prysur iawn i griw c2.
Wythnos dwetha nes i, Robin a Sian Alaw bacio ein cesys a symud i fyw i'r gogledd am wythnos, er mwyn mwynhau wythnos yng nghwmni Mr Urdd! Roedd Steddfod yr Urdd yn Sir Conwy eleni wrth gwrs a nes i a Glyn Wise a'r criw dreulio cwpwl o ddiwrnode ar y maes yn gofyn i enwogion i gefnogi naill ai ymgyrch Glyn i wahodd y Steddfod i Flaene, neu i gefnogi fy ymgyrch i wahodd y steddfod i Ponty!! Fydde cal steddfod yn Pont yn ace! Fydde mam fi wrth ei bodd - a falle sa fi'n cael fy ngwahodd i fod yn feirniad, neu - hyd yn oed gwell - yn llywydd y dydd! Pa mor dda fydde hwna! Sa fi'n gallu cael outfit posh newydd a sgidie neis hefyd. Fel Eleri Sion a Heledd Cynwal. Ar hyn o bryd, pan fi'n crwydro'r maes fi'n edrych yn rili doji mewn sgidie flat...
Y newyddion da? Nath pawb gefnogi ymgyrch fi - doedd neb ise cefnogi Glyn. Ha ha ha *
Chi'n cwrdd â lot o bobl od ar faes y Steddfod
Ar ôl cyrraedd nôl i Gaerdydd ar ôl wythnos lawn lan yn y gogs - beth oedd yn disgwyl amdanai? Wythnos o wylie yn ymlacio? Gwylie i'r Maldvies? No wê nefar byth Tecwyn, chwedl Mr Picton off C'mon Midffild.. Yr hyn oedd yn disgwyl amdanai oedd 3 rownd cyn-derfynol Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru ac C2 Radio Cymru - 3 noson - 3 band bob noson a 3 beriniad yn y stiwdio - Owen Powell, Rhodri Llwyd Morgan a Bethan Elfyn - a 3 lle yn y rownd derfynnol... (lot o 3's fyna - a ma 3 yn rhif lwcus - cool!).
Nos Fawrth y band ath drwyddo i'r ffeinal oedd Tempo o Grymych.
Nos Fercher, Stone Free ath a hi.
A nos Iau, band arall o grymych - Yr Offbeats gafodd ei dewis I fynd drwyddo...
Llongyfarchiade mawr ir 3 band - fydden nhw'n mynd ben ben a'i gilydd ar nos Fercher 2ail o Orfennaf.
A diolch i'r naw band am drio - daliwch ati!
Pob lwc i'r tri - allai'm aros tan y ffeinal...
Sgwn i os ma rownd gynderfynol ByB yn ddigon o reswm i fi brynu ffrog newydd?Hmmmm... a sgidie??? Swnio'n dda i mi!
Traaaa lyflis
xxx
* ddim yn wir o gwbwl