Diwedd Rhys Mwyn
... wel diwedd y gyfres o raglenni C2 gan Rhys Mwyn beth bynnag.
Dwi wedi cael amser gwych yn recordio'r rhaglen yma - wedi cael bod yn nhŷ Gai Toms, draw yn Bethesda yn tŷ Hefin Huws a Sion Maffia, wedi cael mynd i gyfarfod Dave R Edwards yn Aberteifi, ac wedi cael gwrando ar Geraint Jarman yn sôn am hanes cerddoriaeth Caerdydd. Heb fod yn rhy ddramatic, mae wir yn anrhydedd cael gnweud y job yma weithia.
Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau rywfaint o'r rhaglenni - gadewch i mi wybod be oedda chi'n feddwl o'r gyfres. Dwi hefyd yn chwilio am syniada ar gyfer "Rhys Mwyn3"! Un syniad fuasai cyfres ar gerddoriaeth byd, hefo arbennigwr yn westai ar bob rhaglen - ee un ar Afro-Funk hefo Gwilym Morus, un am Zydeco / cajun hefo Owen Cob ayyb. Be da chi'n feddwl? Unrhyw syniadau - gyrrwch nhw draw plis!
A chofiwch - nos Fercher nesa ma Geraint Jarman yn dechra cyfres newydd, a ma hi am fod yn wych...
SylwadauAnfon sylw
Diolch am y gyfres - y rhaglen am Aberteifi yn enwedig.