Mics Dyl Mei
Dyl Mei a Lisa yn y Steddfod - mwy o luniau, fideos a setiau byw ar ein safle Steddfod!
Wel, ma pawb yn ôl yn y swyddfa ar ôl 'Steddfod, a phawb yn edrych yn... flinedig. Ma Lisa ar ei ffordd nôl ar ôl Gŵyl Jazz Aberhonddu (ma hi wedi mynd o Sesiwn Fawr i Gardd Goll i 'Steddfod i Aberhonddu, a Gŵyl Dyn Gwyrdd wnsos nesa - stamina/parch!)
Dwi'n meddwl bod ni gyd yn teimlo chydig yn isel/SAD oherwydd diwedd 'Steddfod a'r tywydd ofnadwy. Felly dyma rywbeth i godi gwên. Ma'r Genod Droog (wel, Dyl Mei a bod yn fanwl gywir) wedi gwneud mics arbennig ar gyfer rhaglen Lisa nos Wener - a deud y gwir dyna'r unig beth fydd ar y rhaglen achos mae'r mics yn 58 munud - ac mae'n hollol, hollol wych. Mae'n dangos amrywiaeth chwaeth Dyl mewn cerddoriaeth, hiwmor, hwyl a chymysgu cofiadwy.
Felly nos Wener - Lisa Gwilym yn cyflwyno... Mics Dyl Mei! Ac os na fedrwch chi ddisgwyl tan 10pm nos Wener, dyma be fydd ar y rhaglen - yn cynnwys lot o gerddoriaeth egsgliwsif newydd:
- Las Cuatro Caminos
- Calcutta - Ravi Shankar
- Howling Wolf - Smokesteady Lightning
- Star Wars - End Credits
- Meco - Star Wars theme
- Mr Phormula - Rhyfel Tonau
- Dilyn Dwynwen - Endaf Emlyn
- Pontypridd - 9 Bach / Genod Droog!
- Tiwn Gron - Kerdd dant
- Ewn am Dro fo Deio i Bongo - Y Lladron
- 50 Arthur - Y Lladron
- Gwn Slippy - Y Lladron
- Break Beat Lovers - Y Lladron
- Light My Fire - Shirley Bassey
- Byw Ar Gwmwl - Plant Duw
- Ffarwel - Sidan