Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Eisteddfod wych, a llwyth o gigs!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Huw Stephens Huw Stephens | 15:21, Dydd Mawrth, 12 Awst 2008

Roedd y Steddfod yng Nghaerdydd yn un da. Ro'n i'n ffilmio Bandit yn ystod yr wthnos, a bydd rhaglen awr o uchafbwyntiau cerddoriaeth y Steddfod ar S4C nos Iau yma. Nos Iau ola'r Steddfod ro'n i'n djo yn Maes B, ac yn gneud cyfweliadau i C2. Mae nhw lan yr we nawr. Edrychwch ar y gwahaniaeth taldra rhwng fi a Efa Stilletoes! Drychwch pa mor boeth ydi Mei Radio Lux!

Roedd Radio Lux yn wych - eu pedwaredd blwyddyn fel band yn gigio yn y Steddfod, ag roedd gweld dros mil o bobl yn ffrwydro i'w caneuon yn brofiad cyffrous iawn. Dwi'n meddwl fod nhw am fynd i drywydd arall nesa, fel gnaeth SFA neu Catatonia ar ôl cyraedd uchelfannau eu poblogrwydd ar y sin Gymraeg. Dyddiau cyffrous.

Roedd tri band newydd nath wneud argraff, a mynd a'i cerddoriaeth i'r man nesa.

Jen Jeniro; am dipyn ddim yn cael eu cymryd o ddifri ar yr un lefel a bandiau eraill, ond ar ol rhyddhau Geleniaeth ar label Sbrigyn Ymborth, a gigs yn y Steddfod, mae nhw ar eu fyny a bydd mwy yn talu sylw.

Yr Ods. Bydd mwy o sylw yn dod pan fydd ei sengl gyntaf allan ar Ciwdod. Roedd rhoi CDR sengls allan yn y Steddfod yn syniad gwych, ac mae nhw'n hynod o dda ar lwyfan.

Random Elbow Pain. Gyda'r Steddfod ar step drws y band roedd yn gyfle da i'r pedwarawd o Gaerdydd ddechre gneud be oedd Hanner Pei yn neud tua ugain mlynedd yn ôl, sef dod a chwa o awyr iach i'r sin Gymraeg gyda dylanwadau gwahanol i bawb arall a egni atyniadol.

Mae albym Genod Droog, mas yn y Steddfod, yn un pleserus iawn; o'r diwedd mae e allan! Ac yn swnio'n berffaith, rhaid deud.

Ges i bocs set Geraint Jarman hefyd. Wedi grando a chymryd mewn Gobaith Mawr y Ganrif; albym arbennig a heb glywed dim fel hwn yn Gymraeg. Mae'n ddoniol ar adegau gyda hiwmor drwy'r albym. Ond hefyd yn drist; mae'n amlwg fod Jarman yn gerddor unigryw o'r albym yma. Fi'n edrych mlaen i wario amser gyda'r cd's eraill yn y bocs.

Gŵyl Dyn Gwyrdd penwthnos yma! Allai ddim aros!

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.