Sgidiau porffor...
Aia,
Ma pawb yn chwerthin arna fi heddi achos fi'n gwisgo soldau uchel porffor sgleiniog ar y maes. Yn bersonol - sain deall y joc. Oce - mae'n eitha mwdlyd, ond dyw hwna ddim yn rheswm i bwyntio a chwerthin yn agored. Siom.
Fi a Glyn yn yr iglwww heddi - ma Glyn newydd sylwi ar gardie post Glyn a Magi sy o gwmpas y maes. Mae e'n cwyno achos mae'n dweud bo fe'n edrych fel alien . Fi'n meddwl bo fi'n edrych yn feichiog. Ond - just i gadarnhau - dydw i ddim. Ma just bola masif gyda fi.
Chi ise gwbod be ma pobol yn gwisgo ar y maes heddi? Wrth gwrs eich bo chi!! Co chi 'de!
- Glyn Wise (Siwmper glas a gwyn streipiog, jins a trainers Nike)
- Jeni Lyn (top blodeuog neis iawn, jins tywyll a sandalau)
- Ows Frizbee (crys t a jins)
- Jas Frizbee (crys t a jins)
- Yws Frizbe (crys t a jins... ydy chi'n gweld patrwm yn datblygu fan hyn?)
- Dyl Mei (crys brown, tei a blazer)
- Carwyn genod droog (cords brown a chrys t glas... neu falle gwyrdd)
- Morgan Hopkin (crys pinc a jins tywyll)
- Aaron Eleias (fest du a jins...ac yn edrych yn gorjys fel arfer)
- Geth/Phil/Rob/Paul Gwibdaith (cryse t, trowsus combat neu jins)**
- Meilir Radio Lux - ddim ar y maes ond yn Grangetown neithiwr (cords brown a chrys t gwyrdd)
Gan ei bod hi'n braf ma pawb yn gwisgo sbectol haul. Y thema sbectolaidd yw Aviators. Ma'r sbectols mawr a la Nicole Ritchie/Paris Hilton moooor Steddfod Wyddgrug. A waeth i ni fod yn onest - ma sbectol haul yn hanfodol ir steddfod. Nid yn unig ydyn nhw'n cuddio pechodau noson heb gwsg, ma nhw hefyd yn esgus i chi osgoi pobol chi rili ddim moyn gweld.
Hoce dudes. Ni'n mynd i baratoi rhaglen heno nawr... Ma lineup Maes b yn ace - felly edrych mlaen yn arw!
Tan fory
Tra xxx
**Ma Gwibdaith yn chware ar y maes ar hyn o bryd - nes i ofyn i Geth os oedd e moyn neud fersiwn o Cân am Sana gan bo fi, Glyn a Jeni ar y maes. Nath e chwerthin yn uchel iawn, ond pan nes i weud wrtho fe bo fi o ddifri nath e edrych arnai yn bryderus, g'neud ei esgusodion a ffoi. Siom