Aia....
Elo, (na nid E.L.O just helo llafar)
Nos Iau, nes i gyflwyno rownd ranbarthol Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru, C2 Radio Cymru - rownd y De Orllewin yng Nghaerfyrddin. Nath tri band ifanc arbennig o dda fynd drwyddo i'r rownd nesa'. Y tri oedd Smashing Diamonds o Rydaman, Ji Bincs o Gaerfyrddin a Nevaro o Lanelli.
A chi'n gwbo' be? Mi o'dd y tri band yn briliant - mor carismatic, egniol a chyffrous. Dwi wrth fy modd mynd i weld bandie adnabyddus fel Derwyddon, Sibrydion, Race Horses - ond ma rhywbeth mor arbennig mewn gweld bandie ifanc, amrwd ar lwyfan. Ma'r brwdfrydedd yn heintus. Ma' rhoi llwyfan i fandie ifanc sy'n sgwennu a pherfformio yn y Gymraeg yn flaenoriaeth i ni yn C2 ac mi roedd yn fraint i fod yng Nghaerfyrddin nos Iau.
Nos Wener yma - dwi ym Merthyr. Rownd Ranbarthol y De-Ddwyrain. Fy mhatch i. Mae'n debyg fydd 9 band yn cystadlu. Allai'm aros!
M xx