Ar daith...
Helo.
Fi di bod rownd y lle yn ddiweddar; ym Melffast i djo, i Gaernarfon i fod ar raglen Tudur Owen o'r Doc ar S4C ac i Aberystwyth i Wyl Ffilmie Ffresh sydd wastad yn hwyl ac yn ddifyr. Roedd y Disgo Distaw yn hwyl hefyd, er bach yn dawel. Dim joc odd hwne, roedd e wir bach yn dawel, ond roedd rheiny yno wedi mwynhau. Mae'r Disgo Distaw nesa ar Chwefror 28, gyda dj's yn chware tiwns anferth Susnag a Cymraeg, a chi'n dewis pa un chi'n gwrando ar trwy clustffonau. Mae'n lot o hwyl. A sbri.
Mae Katell Keineg yn gerddor hynod ddiddorol sydd wedi byw yn Nulyn, Efrog Newydd a bellach nôl yng Nghaerdydd. Nath hi ryddhau dwy albym ar label Elektra, recordio gyda Iggy Pop, teithio ag ennill ffans o amgylch y byd a nawr mae hi yn gweithio ar albym newydd.
Roedd Katell yn westai ar y rhaglen nos Lun ar C2, a nath hi ddewis tracs gwych. Nes i chwarae dwy gân ganddi hi hefyd, Gwyneb Iau ei fersiwn o gân SFA a Trouble.
Wrth fy modd gyda remicsusususususus Dileu o Eitha Tal Ffranco a Georgia Ruth Williams, wrth fy modd gyda mynd i stiwdio Dyl Mei - Stiwdio Blaen y Cae wythnos dwytha yng Ngarndolbenmaen, a wrth fy modd fod Dan Griffiths o'r Archif yn Llyfrgell Aberystwyth yn dod ar y rhaglen nos Lun nesa'.
Hwyl
x