Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Huw M

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Gareth Iwan | 10:53, Dydd Mercher, 18 Chwefror 2009

Helo bawb
fydd artist yr wythnos ar raglen Lisa Gwilym yr wythnos yma. I fod yn gwbl agored, roeddwn i'n meddwl y byswn i'n son yn fama (a bydd Lisa'n yn son ar yr awyr) fod Huw yn gynhyrchydd C2 yng Nghaerdydd!

Er fod Lisa a fi ym Mangor a Huw yng Ngaherdydd, da ni'n amlwg yn ei nabod yn dda iawn, felly dyma esbonio chydig mwy am y rhesymau dros ei ddewis yn artist yr wythnos. Yn syml, mae Lisa'n licio ei gerddoriaeth yn fawr iawn!! Fe gafodd adolygiadau gwych o'i gig yng , ac mae'r senglau sydd wedi ein cyrraedd ni hyd yn hyn wedi bod yn berffaith i'r rhaglen - cerddoriaeth acwstic hyfryd ond hefo elfen 'chydig mwy arbrofol hefyd. Felly dwi'n gobeithio y bydda ni yn chwarae ei gerddoriaeth tasa fo yn aelod o griw C2 neu beidio. Mae hi hefyd yn adeg tawel iawn o ran CDs newydd Cymraeg, felly da ni'n falch iawn o gael cynyrch newydd i roi sylw iddo fo. Os fysa chi'n licio i ni chwarae eich cerddoriaeth chi, gyrrwch o draw ata i!
Cofion
Gar

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.