Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

SGWP SWCI A MERCHED C'FYRDDIN YN ROCIO!

Nia Medi Nia Medi | 10:46, Dydd Iau, 12 Chwefror 2009


Heno, am y tro cyntaf ar y tonfeddi radio, mi fyddai'n darlledu trac newydd Mared Lenny (Swci Boscawen gynt) a'r band cyffrous ma' hi wedi bod y gweithio gyda yn Efrog Newydd, Electric Tickle Machine! Enw'r trac yw 'Women are the new men', ac mae'n STOPMYR o drac!

Rheolwraig y band Electric Tickle Machine yw Eden Cale, sef merch John Cale gynt o Velvet Underground. Mae Mared wedi bod allan yn Efrog newydd yn gweithio gyda nhw ar brosiect newydd, a heno am y tro cyntaf, gawn ni glywed ychydig o'r canlyniad! Flwyddyn diwethaf fe wnaeth Mared ddatgan fod Swci yn dod i ben, a byddai'n rhaid i ni aros i glywed beth fyddai'n digwydd nesaf ganddi.

Fan na o'n i yn cael g&t bach cyn mynd i gwely, a ma' neges yn dod trwy o Facebook (Diolch i Dduw am FB!) oddi wrth y seren 'i hun, Mared Lenny, yn gofyn os hoffen i chware y trac cyntaf o'r prosiect newydd am y tro cyntaf...AS IF bydden i'n dweud 'Na!'.

Fe wnaeth hi ddechrau drwy hybu fy ego a dweud ei bod hi'n rili mwynhau y rhaglen, yna dweud ei bod hi am rhoi y 'sgwp' i fi a bod y gân heb hyd yn oed wedi cael ei chyhoeddi i'r wasg eto...

Felly dyma wrando ar y gân, caru'r gân, deall yn llwyr pam wnaeth hi fuddsoddi mewn tripiau i Efrog Newydd a gweithio gyda'r Electric Tickle Machine, ac yna slotio'r gân mewn i raglen heno! Fi wedi bod yn ffan o Swci Boscawen ers y dechrau, ac yn parhau i chware tracs Swci, dyma ferch sy'n gallu sgwennu tiwns ffresh, diddorol a swn newydd iddynt bob tro..


Felly am 11pm heno, am y tro cyntaf, mi fyddai'n chware cân newydd Mared a'r Electric Tickle Machine , 'Women are the new men' - Byddwch yn siwr i diwnio mewn i wrando ar y trac newydd gwych yma ynghyd â fy hysteria i dros gael fy 'ecsglwsif' cyntaf! IEI!


Hefyd ar y rhaglen mi fydd yr Awdures Catrin Dafydd yn sôn am y newyddion gwych fod ei nofel gyntaf saesneg, Random Deaths and Custard' wedi cyrraedd rhestr hir 'Spread the word: Books to talk about in 2009' ym Mhrydain. Bydd y llyfr buddugol yn cael ei gyhoeddi ar 'World book day',Dydd Iau Mawrth 5ed. I bleidleisio am lyfr Catrin yna ewch i www.spread-the-word.org. Methu aros i sgwrsio da catrin am y nofel, fi'n dwli ar gwstard ac ar lyfre sdim byd fel darllen llyfr da tra'n bwyta tin o gwstard.

Ma Mared a Catrin o Gaerfyrddin (a finne o Sir Gaerfyrddin) felly llongyfarchiadau i'r ardal hefyd am fagu merched mor dalentog ;-)!!


TAN 11 HENO, HWYL XXX


Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.