Steffan Cravos sy'n rheoli'r donfedd
I ddechrau, ymddiheuriadau am y 'pun' ofnadwy ar gan y Tystion yn nheitl y blog yma OND newyddion cyffrous iawn i chi. Ma am fod yn cyflwyno cyfres fer o raglenni hip-hop cyfoes ar C2 yn dechrau nos Fercher Chwefror 25 am 10pm. Bydd yn chwarae'r gorau o'r byd hip-hop cyfoes yng Nghymru, felly os da chi'n artist hip-hop, mae croeso i chi yrru unrhyw draciau newydd i Cravos drwydda i, fel petai. Dwi wir yn edrych ymlaen at glywed ei ddewis o gerddoriaeth, felly iddi!