"Gig of two halves"
Mae na hen ystrydeb pel-droed fod pob gem yn "game of two halves". Wel, dyna ges i nos Iau yn y Greeks - gig mewn dwy ran. Nes i gyrraedd am 7.30pm mewn amser y weld y Creision Hud. Ddaru nhw ddechrau hefo 30 eiliad o effeithiau sain Furry-aidd nes i rywbeth chwyth yn amp i gitarydd, a bu rhaid disgwyl am ryw 10 munud cyn ail-ddechrau. Roedd hi werth disgwyl - ma nhw'n fand byw da iawn. Caneuon rock 'catchy', hefo mwy o'r cyffyrddiadau SFA-aidd.
ddaeth wedyn, a doeddwn i erioed wedi eu gweld nhw'n fyw o'r blaen. Ma ganddyn nhw swn hollol unigryw - ac mi oeddwn i wedi synnu faint o'r set ro'n i'n ei adnabod. Mae hynny'n dangos faint ma nhw wedi recordio i feddwl eu bod nhw'n fand eitha ifanc, ond hefyd yn dangos faint ma nhw wedi cael eu chwara yma ar C2.
Roedd hi wedyn yn "hanner amser" - yn fy achos i, amser i fynd nol i stiwdios Radio Cymru yn Bryn Meirion, Bangor i gynhyrchu rhaglen Lisa Gwilym. Felly, yn anffodus, nes i fethu set Eitha Tal Ffranco a Cowbois Rhos Botwnnog. OND mi oedd Gruff o Eitha Tal Ffranco wedi gyrru caneuon newydd sbon yn exclusive i Lisa o'r albym newydd "Medina" felly ges i wrando ar rheini! Gewch chi wrando eto yn fama. Mae'n debyg hefyd fod Cowbois wrthi'n recordio ail albym...
Nes i gyrraedd yn ol i'r Greeks mewn pryd i glywed set Sibrydion. Ro'n i wedi gweld Sibrydion yn y Ring, Llanfrothen 'chydig wythnosa yn ol, ac mi oedde nhw'n gret. Dwi'n siwr eu bod nhw'n wych nos Iau hefyd, ond mi oedd na gymaint o griw o'u cwmpas nhw, a sain y Greeks yn eitha od yn y cefn, felly fedra i ddim wir rhoi fy marn yn gwbl sicr. Ond dwi erioed wedi eu gweld nhw'n chwarae'n wael...
Son am gigs - ewch i fama i wrando ar gig wych Jyncadelic Gai Toms gafodd ei recordio yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli
Reit, nol i'r gwaith. Yr wythnos yma bydd gan Lisa dracia newydd nos Iau, a mix nos Wener
Cofion
Gar
ps diolch i Gwion am drefnu'r gig yn y Greeks
SylwadauAnfon sylw
Gwych o gig - a 'run peth i mi, bron - gollish i ran fwya o set Cowbois Rhos yn trio cyradd y bar!