Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Siopau Recordiau, a John Cale

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Gareth Iwan | 10:16, Dydd Iau, 16 Ebrill 2009

Dydd Sadwrn yma mae hi'n ddiwrnod , ac mewn siopau ar draws Cymru fe fydd na gigs a gwahanol weithgareddau yn cael eu cynnal i ddathlu cyfraniad siopau bychain i'r sin gerddorol yng Nghymru.

Mi fydd Andy's yn Aberystwyth, Cob ym Mangor, Diverse Music yng Nghasnewydd a Spillers yng Nghaerdydd yn dathlu'r diwrnod, a gadewch i ni wybod os da chi'n ymwybodol o fwy o ddigwyddiadau.

Ma fy nyled i'n bersonol yn fawr i griw . Mae Owen a'r hogia wedi fy nghyflwyno i fathau o gerddoriaeth na fyswn i fyth wedi dod ar eu traws o'r blaen, a dyna werth siop fechan; medru mynd i fewn am sgwrs, a dod allan hefo CD neu LP gan grwp nad yde chi erioed wedi clywed amdanyn nhw o'r blaen. Dyma dwi am ei wneud dydd Sadwrn - pam na wnewch chi yr un peth? Mynd i'r siop leol a gofynwch am CD nad yde chi erioed wedi clywed amdano. Gewch chi sgwrs ddifyr ac agoriad llygaid, gobeithio.

Dwi hefyd isho rhoi 'plug' bach i raglen arall Lisa Gwilym y . Os oeddech chi yn gwylio The Apprentice neu Hell's Kitchen neithiwr, mae'n debyg i chi golli cyfweliad Lisa hefo John Cale ar y Sioe Gelf. Roedd hi'n eitem ddifyr iawn, ac yn dipyn o "scoop" iddyn nhw. .

Heno ar raglen C2 Lisa - caneuon newydd sbon gan y , a sgwrs hefo trefnwyr .

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.