Nos Sadwrn Bach ar Nos Lun!
Helo. Gwych o beth oedd seshwn newydd Nos Sadwrn Bach ar y rhaglen nos Lun - gwrandewch arni eto fan hyn . Nes i fwynhau cael Ianto a Llyr o'r band ar y rhaglen; mae nhw yng nghanol arholiadau a pethe felly ar hyn o bryd, ond roedden nhw wedi mwynhau recordio'r sesiwn gyda Curig Huws yn ei stiwdio fe yn ddiweddar. Roedden nhw'n hoffi'r ffaith fod e'n onest a ddim jyst yn deud 'ie, oedd hwnne'n iawn' - roedd e'n annog nhw i neud y darnau eto ac yn well! Edrych mlaen i weld Nos Sadwrn Bach yn Maes B ar y nos Sadwrn ola. Wedi bod i lwyth o gigs yn ddiweddar. Mae'r band The XX yn un o fy hoff rai ar hyn o bryd, unwaith gai eu cd nai ddechre chware nhw. Roedd gig lawnsio albym Eitha Tal Ffranco yn dda yn Nghaerdydd yn ddiweddar, er doedd yr albyms eu hunen ddim yne!
O'n i ar y ffordd i weld un o fy hoff fandiau i, Phoenix, yn ddiweddar pan ddath galwad ffôn; mae'r prif leisydd wedi colli ei lais. Piti ynde. Nath yr un peth ddigwydd i Golden Silvers a'i prif leisydd Gwilym Gold yn ddiweddar, ond nath e gario mlaen a chware gig gwych. Mae eu halbym cyntaf nhw, True Romance, yn dda iawn, a ma teulu Gwilym o orllewin Cymru.
Wrth deipio hwn, fi dal yn stiff ar ol seiclo gormod ar ddechre'r wthnos. Aw.
Huw
x