Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nevarro yn Fuddugol!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Magi Dodd Magi Dodd | 15:14, Dydd Iau, 30 Ebrill 2009

I arall-eirio'r gerdd r'on ni'n adrodd yn Ysgol Gynradd Pont Sion Norton,' Tri yn unig oedd yn y ras,' ond nid Tomi Ros Banc a Ned Ty Glas oedd yn rhedeg, ond Smashing Diamonds, Nevarro a Crwydro.

Dwi'n son wrth gwrs am rownd derfynol Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru, C2 Radio Cymru - a neithiwr ar C2, gafodd y band buddugol ei goroni.

Ac mi benderfynoch chi, wrandawyr C2, ma Nevarro oedd y band gore' yn y gystadleuaeth. Tom, Steff, Dodo ac Alec yw aelodau'r band ac ma nhw'n dod o Lanelli a Rhydaman. Angen Ti yw enw'r gân glywsoch chi yn y gystadleuaeth, ac ers neithiwr ma cymaint o bobol 'di canmol nid yn unig agwedd wych y band, ond hefyd safon uchel eu cerddoriaeth a'u sgil cerddorol.

Nes i gyflwyno Nevarro ar y llwyfan yn ei rownd ranbarthol yng Nghaerfyrddin ddechre'r flwyddyn ac mi roedd eu talent a'u hegni naturiol i'w weld ac i'w glywed. Mi nath y band hedfan drwyddo i'r rowndie cyn-derfynol ac mi gafon nhw nifer anferth o bleidleisiau yn y rownd honno. Rhwng y rownd gyn-derfynnol a'r rownd derfynol mi a'th Nevarro - a'r ddau fand arall i stiwdio broffesiynol i ail recordio eu cân. Aeth Nevarro i stwidio Sonic 1 yn Llangennech dan ofal Tim Hamil i recordio Angen Ti, a'r canylniad? Wel - y canlyniad yw mai dyna'r gân fuddugol gan y band buddugol ym Mrwydr y Bandiau, Mentrau Iaith Cymru, C2 Radio Cymru 2009.

Fel nodyn personol, licen i longyfach Nevarro o waelod calon. Ma safon eu chware, eu cerddoriaeth a hefyd eu hagwedd cwrtais a bonheddig (mi nethon nhw estyn eu dymuniadau gore i Smashing Diamonds a Crwydro ar ôl clywed ma nhw oedd yn fuddugol), yn rhywbeth arbennig iawn.

Dydw i ddim yn berson cystadleuol - dydw i ddim yn lico cystadleuaethau achos ma gas da fi feddwl am unrhywun yn colli. Sa fi'n cal fy ffordd, fydde pawb yn ennill. Ac i ryw raddau, dwi'n meddwl fod y tri band nath gyrraedd y rownd derfynol wedi ennill. Ma Smashing Diamonds a Crwydro - er ddim yn fuddugol, wedi dangos eu hunain yn fandie ifanc, cyffrous, addawol a dwi'n gwbod ewn nhw'n bell.

Ond Nevarro oedd yn fuddugol. Nhw yw ein pencampwyr eleni. Llongyfarchiadau gwresog i'r band i gyd - a phob dymuniad gore iddyn nhw. Fy nghyngor i? Ymlaciwch dros y dyddie nesa' achos o hyn ymlaen - ma pethe'n mynd i ddechre poethi! O Uned 5, i stwdio recordio, o daith ysgolion c2 i nos Sadwrn ola Maes B - mae'n mynd i fod yn wyllt! Nevarro... mwynhewch!

Magi
x

o.n - sori fod y neges yma'n hir!!

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.