Adfywiad pop?
Mae hi wedi bod yn eitha tawel yn ddiweddar o ran caneuon pop da. Wrth hynny, dwi ddim yn golygu petha fel TNT, Pheena, Rhydian ayyb, ond yn hytrach caneuon bachog gan artistiaid poblogaidd, eang eu apel. Roedd Frizbee yn y categori yma, Sibrydion falla, Gwibdaith? Anweledig?
Mae'n braf gweld yn y misoedd nesa fod na lot fawr o gerddoriaeth pop da ar y ffordd. I ddechra, album newydd . Dwi wedi ei glywed, ac mae'n esiampl gwych o'r math yma o gerddoriaeth pop. Mae'n cymharu'n dda iawn hefo Jack Johnson, Ryan Adams o ran swn cynhyrchu a caneuon 'catchy'. Dwi'n eitha sicr y byddwch chi'n clywed y caneuon ar Radio Cymru yn ystod y dydd ac C2 fin nos!!
sy nesa - hefo sengl llawn gitars "jangly" a melodiau cofiadwy, ac wedyn fe ddaw albym (heb Mr Pinc)sy'n siwr o fod yn llawn o ganeuon pop da. A 'chydig bach o newyddion i chi - mae gen i CD o ganeuon o sesiwn newydd Ceri Cunnington, prif leisydd Anweledig, yn nror top fy nesg yn barod i'w chwara mewn cwpl o wythnosau...
Mae hefyd rhaid son am albym , Melys, sy'n fath gwahanol o bop, ond yn ddiddorol iawn. Mae'n albym electro-pop hefo gwesteion fel Heather Jones, Cofi Bach, Nia Medi, DJ Jaffa a Margaret Williams yn cyfrannu.
I glywed mwy am yr adfywiad pop, gwrandewch ar raglen Lisa nos fory i glywed sesiwn Al Lewis, a nos Wener i gael awr yng nghwmni Clinigol. Yn y mis nesa, bydd sesiynau gan Dan Lloyd, Ceri Cunnington, a Fflur Dafydd
ps cyn i chi gwyno, dwi yn cofio fod Huw M, Mr Huw, a'r Ods i gyd yn 'sgwennu caneuon pop gwych, ond ddim eto cweit hefo apel mor eang a rhai o'r grwpiau fel Frizbee? Nai adael i chi drafod hynny...
SylwadauAnfon sylw
Hir oes i gerddoriaeth bop!! Gwych gwych gwych!
(hmmmm... chi'n cael y teimlad bo' fi'n hoffi cerddoriaeth bop??)