Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nol o wyliau yn barod am wyliau!

Nia Medi Nia Medi | 16:27, Dydd Iau, 7 Mai 2009


Helo bawb - sori heb sgwennu ers sbel...wel fi ddim mor sori a 'ny achos fi wedi body n cael amser gwych dros y mis diwethaf ar fy hols yn Lanzarote ac yna I Brighton lle ges I amser ffab! Fi nawr yn Kareoke Queen yn Costa Teguise ac yn browd iawn o'r teitl hynny - falle nai fynd nol flwyddyn nesaf I neud siwr fod neb yn dwyn fy nghoron...

O'dd Brighton yn gret hefyd, byth wedi bod yno o'r blaen, a gyda'r haul yn tywynnu a'r traeth mor hyfryd yn llawn bars a clybie ffynci, ges I amser hollol wych!

Nes I hefyd ddarganfod bod gwyl Beachdown yn digwydd yno yn ystod Mis Awst gyda Super Furry Animals yn headlinio! Ma'r wyl yn digwydd yn Devil's Dyke yn Brighton ar Awst 22ain-25ain ac ma' Grace Jones ar dop y rhestr o bobl sy'n chware hefyd, yn ogystal a The Zutons, St Etienne a Grandmaster Flash! Fyddai'n sicr yn pacio fy mhabell bach a mynd draw yno am benwythnos sy'n argoeli I fod yn WYCH!

Am fwy o wybodaeth ewch i,

Hefyd ma' na wyl wych yn digwydd yn Aberystwyth leni sef The Square Festival, a hynny, Gorffennaf 24ain-26ain yn ardal Borth. Supergrass sy'n headlinio fan hyn, ond os I chi wedi body n gwrando ar fy rhaglen I fyddwch chi'n barod yn nabod y band sydd yn cefnogi nhw sef 'Peggy Realoads'. Dwi wedi body n chware'r band yma sy'n dod o Garnant ger Rhydaman ers misoedd bellach, ma' nhw'n hollol wych - ac os i chi'n hoff o'ch roc uchel gyda melodiau gwych yna dyma'r band I chi. Y prif leisydd, Twig yw'r boi oedd tu ol I'r remixes o gân Elin Fflur,'Swyn Atgofion' a 'Disco Bitch' gan Iglw, sy'n aml yn cael ei chwarae ar C2 erbyn hyn.
I glywed mwy o gerddoriaeth y band yna ewch i, Mi fydd band 'The Last Republic' o ardal Pontardawe yn chware yno hefyd, ac ma' rhain hefyd yn fand hollol wych dwi wedi bod yn chware ar y rhaglen. Os chi'n lico pobl fel Muse a Radiohead - dyma'r band I chi -
Hefyd yn chware yno fydd Threatmantics, Racehorses a Masters in france!
Am fwy o wybodaeth am yr wyl yna ewch i

Wel 'na Gorffenaf a Awst yn sorted - ond beth am Mis Medi? Mis PWYSICA'R flwyddyn oherwydd dyna mis fy mhenblwydd! Wel, ma'r gantores Rhian Mostyn ar fy rhaglen i nos Wener ac ma' hi'n sôn am wyl Llanffest ma' hi'n trefnu ar ei fferm hi yn Llanfairfechan ym Mangor ar Medi 5ed! Mae'n debyg bydd Derwyddon Dr Gonzo a Mr Huw yno yngyd a lot o artistiaid eraill! Am fwy o wybodaeth cofiwch checio gwefan C2 yn rheolaidd I weld beth yw'r datblygiadau!

Ffili aros I fynd I BOPETH!!!

Nia xx

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.