Sounds From the Other City
Ro'n i yn Salford yn ddiweddar. Y tempatsiwn ydi deud fod Salford ym Manceinion, ond celwydd fydde hynny. Ma Salford yn agos iawn i Manceinion, ond yn ddinas ar wahan, ac mae'r criw cerddoriaeth o'r lle yn falch iawn o hyn.
Roedd gwyl Sounds From the Other City mlaen, a ro'n i'n rhoi noson mlaen mewn eglwys hyfyrd iawn (roedd tafarndai a neauddoedd eraill yn cael eu defnyddio i roi gigs mlaen hefyd). Nia Morgan agorodd bethe gyda gig arbennig iawn. John Lawrence ( yn y stiwdio gyda Yucatan ar hyn o bryd) ar y 'pedal steel', a chwareydd cello a bas dwbl; gig godidog o hyfryd. Mae Nia, o Fachynlleth, yn rhyddhau ei albym cyntaf yn fuan.
Roedd Marina and the Diamonds yn dda; tiwns pop mawr gwallgof a gwych; mae hi'n dod o'r Fenni, gyda dyfodol disglair o'i blaen.
Roedd Sweet Baboo yn wych fel arfer hefyd, fel glywsoch chi ar raglen Lisa Gwilym ddim rhy bell yn ol. Mae ei ail albym e yn dda hefyd; mwy o'r un peth a dim yn bod gyda hynny.
Mae tracs newydd curiade electroneg a llawn cymeriad Y Pencadlys, Acid Casuals a Eitha Tal Ffranco ar fy rhaglenni wthnos nesa. Www, a sesiwn Wrightoid nos Lun.
Adios, fel ma nhw'n dweud.