Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ble bynnag fi'n rhoi fy het....

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Huw Stephens Huw Stephens | 16:06, Dydd Mawrth, 23 Mehefin 2009


Dyna lle na'i gysgu. Fi wedi bod yn teithio eitha tipyn yn ddiweddar. Gynta', roedd Caracas, Venezuela ddim yn rhywle ro'n i erioed yn disgwyl mynd iddi. Ro'n i yno i wneud gweithdai radio drwy'r British Council, ac i djo mewn clwb a gwyl enfawr ar y stryd. Roedd y gweithdai yn hwyl ac yn digwydd yn y 'barrios', ardaloedd tlawd iawn gyda gorsafoedd radio wedi talu amdanynt gan y lywodraeth arlywydd Chavez. Roedd un dj yn ffan mawr o reggae felly nes i adael CD Llwybr Llaethog a Geraint Jarman iddo. Roedd djo i 3000 o bobl yn y nos yn brofiad boncyrs i ddeud y lleia.
Ges i ryw 30 CD o gerddoriaeth newydd o Venezuela, yn cynnwys dubstep. Mae'r genre yma yn parhau i ffynnu, ac mae llwyth o gynhyrchwyr diddorol yn torri drwodd. Yn Sonar, gwyl yn Barcelona, yn fwy diweddar, roedd dubstep i'w glywed bob man. Joker, Martyn a'r Gaslamp Killer oedd yr uchafbwyntiau ag ro'n i yna gyda Ö÷²¥´óÐã yn cyflwyno.
Fyddai yn Glastonbury ar y pewnthnos - 'twitterwch' fi os chi yne hefyd. O Gymru fydd Colorama, Yr Ods, Gentle Good, Rogues (band newydd Sam o'r Poppies gynt), Gwibdaith Hen Fran a Georgia Ruth Williams yn chware; wthnos nesa fydd fy rhaglenni wedi eu recordio yn Glasto.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.