Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Edrych Mlaen at 'Steddfod!

Magi Dodd Magi Dodd | 13:43, Dydd Mawrth, 16 Mehefin 2009

Hei,

Mae'n braf.
A phan ma' hi'n braf, ma ton o gynnwrf yn rhedeg drwyddo fi achos dwi'n edrych mlaen gymaint at wylie cerddorol yr haf.

Fi'n edrych mlaen i fynd i Wyl Bedd-llwynnog dros y penwythnos. Bandie gwych yn chware' fel Yucatan, Eitha Tal, Plant Duw, Al Lewis Band, Y Diwygiad a .... drrrrrrrr.... (drym rôl)... Jess! Pa mor cool yw hwna? Fi'n caru Jess - ond dim gymaint a ma Hefin Thomas yn caru Jess. Ma Hef yn rili caru Jess, felly fi'n siwr fydd e yna hefyd. Fydda i a Hef reit yn y blaen, yn gwaeddi canu "Duw fi' moyn giiiitttâr.. fel Jiwliaaaaaa gitâr..."

Llwythi o wylie gwych yn digwydd yr haf hwn - ....co'..... Tudalen Gwyliau'r Haf ar wefan C2

Ma Steddfod Bala yn mynd i fod yn ffab, wrth gwrs. Ma criw c2 mewn Winabegos eleni Ond nid ym Maes B. Ni'n rhy hen. Ni'n gwersylla gyda'r bobol barchus - ond i fod yn onest - ma'r Maes Carafanau yn fwy gwyllt na Maes B. Tu ôl ir bbq's parchus mae'n secs, drygs a roc a rol! (** gyda llaw - fi ond yn jocan)
Os dych chi ddim cweit mor ecsited â fi am y steddfod - gwyliwch y fideo yma, gafodd ei ffilmio yn Steddfod Wyddgrug 2007. Os dyw hwn ddim yn rhoi chi yn y mwd am barti Eisteddfodol - sa i'n gwbod be neith!

Welai chi 'na!
Magi x

O.N - diolch i Owain Rhys, am adel i fi roi'r fideo gwych lan ar fy mlog!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:41 ar 22 Mehefin 2009, Dafydd ysgrifennodd:

    Methu'n glir a disgwyl tan y Steddfod - jyst gobeithio y byth hi'n wythnos braf. Atgofion melys iawn (os ychydig yn blurred) o Eisteddfod Bala 1997.

    Chydig o gigs arbennig o dda i weld yn ystod yr wythnos, ond meddwl bod ambell un ychydig yn wan hefyd - colled ar ol rhai o'r bandiau mawr wnaeth wahanu flwyddyn diwethaf - neb rili wedi llenwi y twll.

    Gweld fod y Racehorses yn chwarae yn Maes B ac yn gigs Cymdeithas yr iaith - ydyn nhw yn mynd i allu perfformio set gyfan o ganeuon Cymraeg???

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.