Chwaraeon a Taith C2 / Ciwdod
Roeddwn wedi penderfynu blwyddyn yma i gymeryd rhan mewn gweithgareddau newydd yn fy ail flwyddyn yn y coleg. Felly, rwyf wedi mynychu clybiau bocsio cic ac athletau Prifysgol Caerdydd.
Ddoe fe safais yn stond, yn methu anadlu ar ol cael fy nghicio yn fy chest - teimlais gewin traed yn crafu fy asennau tra oedd chwys yn diferu o fy nhalcen - lovely! Ond, mae'n deimlad braf cael paffio a dysgu sut mae amddiffyn dy hun. Rwan, rwy'n gwybod os fyddai Magi fel 'damsel mewn distress' mi faswn i'n gallu gwaeddi 'na phoener fenyw! Nai dy amddiffyn' yn lle rhedeg a gadael iddi sortio ei phroblemau ar ei hun! Hahahaha!
Yn ogystal a hynny, rwy'n rhedeg gyda'r clwb athletau 4 gwaith yr wythnos. Pan oeddwn yn 15 oed, roeddwn yn rhedeg clwydi 100m a hefyd 400m ar gyfer Gogledd Cymru. Rwan, mae'n anodd dal fy ngwynt am 50m, dyna faint o un-fit rwyn teimlo!
Rwyf am wneud gweithgareddau ymarfer pob diwrnod o hyn ymlaen, erbyn y flwyddyn newydd rwyn gobeithio gallu cerdded lawr y stryd mewn fest gyda breichiau fel Popeye, a'r pecs a'r 6-pack yn galed ac yn popian allan. Ie, dyna yw'r freuddwyd, yn lle bod mewn corff y bachgen 'mr.muscle - loves the jobs you hate!'
Dydd Llun diwethaf, es fyny i ysgol Glan Clwyd efo Taith C2/Ciwdod. Cefais amser gwych yn cyflwyno'r gweithdy radio. Dechreuais boeni am gadw fy swydd fel cyflwynydd oherwydd roedd safon cyflwyno a talent y disgyblion yn wych. Yn ogystal a hynny, cafodd rhai ohonynt wneud band efo Cofi Bach a Tew Shady, ac i feddwl eu bod ond wedi cael bore i gyfansoddi can, roedd o'n well na'r caneuon sydd allan yn siart y 40 uchaf.
Roedd o wir yn ffantastig - cliciwch yma i'w chlywed, mae'n anhygoel. Rwy'n edrych ymlaen i glywed beth mae'r ysgolion eraill am ei wneud dros y daith.
Hwyl am y tro,
Glyn xx