Hanner ffordd...
'elo!
Dyma fi a Meic mewn caffi coffi nid anenwog yn 'Recsam. Newydd wario £30 ar sgidiau newydd (Meic yn dweud bo' nhw'n rhy uchel). Wedi prynu coffi iddo gan mai fe sy'n teipio hwn (ac yn gwneud yn dda iawn i deipio yn acen y de!! [meic])
Paratoi ar gyfer gig yn y Tivoli ym Mwcle heno - allai'm aros i weld Masters in France a'r Bandana. Newyddion da hefyd, dau o fandiau ifanc y daith yn ymuno - criw o Ysgol Brynhyfryd a Morgan Llwyd yn perfformio yn ogystal. Piti am DJ Dodgy Dodd.
Y daith hyd yma 'di bod yn briliant - 'di mwynhau pob eiliad arwahan i godi am 6 bob bore.
Fan fawr wen y daith yn anelu tua'r Gorllewin wythnos nesa - byddwch yn barod ysgolion Maes yr Yrfa, Tregib, Strade ac Ystalyfera - ni ar y ffordd!!
Hwyl am y tro - Magi a Meic (M'n'M's)