Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Colorama, Euros Childs a'r Promatics

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Huw Stephens Huw Stephens | 15:04, Dydd Gwener, 13 Tachwedd 2009

Wel helo.

Yn ddiweddar es i i weld Colorama yn cefnogi Edwyn Collins. Mae Carwyn (Colorama) a'i fand yn wych iawn, mae na gerddorion anhygoel yn y band sy'n gwneud set byw ganddynt yn achlysur bob tro. Mae'n hawdd gweld pam fod Carwyn ym mand Edwyn Collins, cyn-ganwr Orange Juice (Rip it Up and Start Again) a sy'n siwr o fod fwya' enwog am yr hit 'Girl Like You'. Roedd caneuon newydd gan Colorama i chware, ac mae'r EP 'Magic Lantern Show' allan a gwerth ei chlywed.

Roedd Euros Childs yn cefnogi'r band 'Yo La Tengo' a'r daith fer yn ddiweddar. Es i'n excited reit a meddwl ma merch o'r enw Iola Tengo oedd ar daith a wedi gneud yn dda iddi hi eu hun! Roedd gweld Euros yn chware yn bleser pur. Fe yw fy hoff gerddor erioed; mae ei felodiau, ei eiriau, y syniadau sy'n treiddio trwy bob can yn chwythu fy mhen bob tro. Fel arfer, dim ond rhai caneuon oddi ar 'Son of Euro Child' (ei albym ddiweddaraf sydd dal am ddim i'w lawrlwytho o'i wefan - www.euroschilds.com) nath e chware, a'r gweddill yn ganeuon newydd. Pam cadw tiwns newydd nol pam allech chi rannu nhw gyda'r byd? Dyma pam fod Euros yn gerddor mor unigol, dyw e ddim yn meddwl tu fewn i focsus arferol.

A roedd gweld Y Promatics yn chware wythnos yma yn wych hefyd. Nhw ydi'r band sy wedi creu fwya o argraff eleni fi'n meddwl, diolch i'r EP '100 Diwrnod Heb Liw'. Mae eu dylanwadau yn rhyngwladol, a mae'n neis cwrdd a band newydd sy'n gwrando a chwilio am gerddoriaeth yn gyson. Hwn oedd ei gig cynta nhw tu allan i Gymru, a'r tro cynta iddyn nhw ganu yn Saesneg ar lwyfan. Roedd clywed tracs fel 'Seisnigeiddio' a 'Soho' yn wych, a'r un mor dynn a llawn egni ag ar eu CD. Da di'r Promatics de.

Nos Lun ar C2 mae'r cynhyrchydd Llion Robertson yn westai ar fy rhaglen, yn son am ei waith gyda SFA, Lostprophets, Gentle Good a mwy.

Nos Fawrth byd Emyr Glyn Williams o label Ankstmusik mlaen yn son am hunagofiant David R Edwards, 'Atgofion Hen Wanc'.

Bueno.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.