Gwefan newydd am gerddorion Cymru
Mae cyfres newydd yn cychwyn am 10pm ar C2 heno, gyda rhai o fandiau ac artistiaid amlyca Cymru yn dod i'r stiwdio am awr i adrodd eu hanes, hel atgofion, a chwarae ychydig o glipiau a sesiynau o'r archif (ac ambell drac a sesiwn newydd hefyd!).
Ceri a Gai o Anweledig sydd yn y rhaglen gynta, felly tiwniwch i fewn i glywed sut gafodd y band ei enw, a phwy oedd yn gyfrifol am "ail-addurno" Clwb Pêl-droed Aberystwyth - ymysg straeon eraill. Bydd y rhaglen ar gael ar yr iPlayer am y 7 diwrnod nesaf.
Mae'r gyfres yn cyd-fynd â lansio gwefan newydd /cerddoriaeth - sy'n cynnwys mynegai o brif artistiaid cerddorol yr iaith Gymraeg, gyda gwybodaeth am eu hanes a chefndir, a dolenni hawdd at dudalennau perthnasol ar wefannau'r Ö÷²¥´óÐã. Eisiau gwybod pryd oedd sesiwn diweddara Sibrydion (a gwrando arni?) - bydd y manylion ar eu tudalen /cerddoriaeth.
Ni 'di ychwanegu rhyw 40 o broffeils hyd yma, ar artistiaid yn amrywio o Huw Jones i Llwybr Llaethog, a bydd mwy yn ymddangos dros yr wythnosau a misoedd nesa. A gyda chydig o lwc, fyddwn ni'n parhau i ychwanegu at y safle am byth, wrth i fandiau ac artistiaid Cymraeg newydd ddod i'r amlwg!
Beth ych chi'n feddwl o'r safle? Pwy sy'n haeddu sylw nesa? Rhowch eich sylwadau ac awgrymiadau yn y blwch sylwadau!