Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mr Nice a Clinigol - am gyferbyniad!

Nia Medi Nia Medi | 19:37, Dydd Mercher, 4 Tachwedd 2009

Helo! Shwmae? Heb sgwennu ers ache fi'n gwbod, allen i ddod lan a llu o esgusodion am hyn ond y gwir yw dwi jyst wedi bod yn ddiog...

Ond ta beth, ma da fi 'treats' gret i chi ar gyfer Nos Iau a Nos Wener, sef remix o un o ganeuon Clinigol yn ei chware am y tro cyntaf Nos Iau, a Mr Nice sef Howard Marks ei hun yn cynnig tracie i'w chware ar gyfer slot DJ yr wythnos Nos Wener yma!

Yn ddiweddar fe lawnsiwyd stiwdios fantastic newydd yng Nghanolfan ITV yng Nghaerdydd gyda'r cynhyrchydd John Rea wrth y lliw. Mi oedd John yn gyfarwydd fel cyfarwyddwr Cerdd y rhaglen 'Sesiwn Hwyr' flynyddoedd yn ol ar S4C, a hefyd yn gyfrifol am greu 'soundtrack' y cyfres 'Coalhouse' ar gyfer Ö÷²¥´óÐã.

Yn ogystal a bod yn brysur yn cyfansoddi a chynyrchu cerddoriaeth ar gyfer rhaglenni teledu a ffilmiau di-ri, mae e hefyd wedi bod yn cynhyrchu sesiynau ar gyfer Radio 1 Xtra, a hefyd gweithio gyda Charlotte Church ar brosiect cerddorol newydd.... gwyliwch y gofod!

Ond hefyd, fe na'th gynhyrchu'r trac 'Dim ond ti sydd ar ol' ar albym diweddar 'Clinigol', gyda Heather Jones yn canu ar y trac, ac yn ddiweddar mae e wedi cyfansoddi a cynhyrchu fersiwn acwstig newydd o'r trac brydferth yma. Mae'n fersiwn hollol wych ac mae ei waith piano ar y gan yn hollol syfrdanol, felly cofiwch wrando Nos Iau i glywed y trac am y tro cyntaf ar C2!

Ma Howard Marks hefyd yn paratoi ar gyfer rhyddhau ei lyfr nesaf 'Tripping' ac wedi cymryd amser mas i ddewis cwpwl o tracs i chware Nos Wener - trip mawr amdani ar gyfer y penwythnos de!

Tan Nos Iau xx

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.