Calan Gaeaf hapus yn A & E
Nos Wener es i allan ar noson codi arian i'r Prince's Trust. Roeddwn yn beirniadu cystadleuaeth tebyg i'r X Factor yn Tiger Tiger Caerdydd. Roedd y safon yn wych, llawer o ddawnsio, canu, chwerthin a siampen. Ond, mae siampen yn beryg pan yn cymysgu â chwrw a gwin! Roeddwn yn dawnsio yn wallgo i Kim Wilde 'Keep Me Hanging On (sad dwi'n gwybod)! yna, mi wnes i lithro ar hyd y llawr gyda fy nghoesau yn codi uwch fy mhen. Edrychais fel Charlie Chaplin. Yna, fe wnes i lanio ar ben fy mhenelin a chwerthin! Ond, pan godais ar ddiwrnod calan gaeaf roedd fy mhenelin fel pel tenis!
Cerddais i A & E gyda penelin poenus. Roedd gweld yr holl bobl mewn gwisg ffansi calan gaeaf yn ddoniol. Roedd yn anodd gwybod os oedd rhai mewn poen a wedi brifo go iawn, neu eu gwisg ffansi gwaedlyd nhw oedd yn realistic!
Un peth wnaeth fy syfrdanu i fwy na dim oedd yr holl drafferth oedd gweithwyr yr NHS yn ei wynebu gyda meddwon gwyllt a phobl hen di-fynadd yn adarn ddamweiniau'r ysbyty. Maen rhaid i fi gyfaddef fy mod wedi ennill parch aruthrol i ddoctoriaid a nyrsus ar ôl fy mhrofiad yn A & E.
Tra yn yr ysbyty cefais x-ray ar fy mraich, ond diolch i'r drefn doeddwn i ddim wedi torri yr un asgwrn, ond cefais dabledi i gael gwared o'r chwydd.
Neithiwr fe es i gyda'r clwb athletau i ymarfer rhedeg clwydi 100m. Nid oeddwn yn gwybod bod merched a dynion yn cael clwydi o wahanol maint, felly pan oeddwn yn cystadlu yn ras y dynion, sylweddolais fod y clwydi yn rhy uchel a disgynais a glanio ar fy mhenelin unwaith eto. UGH!!!!
Dwi wedi crafu croen fy ngarddwn a fy nghoes. Gret! Ond, dwin gwybod bod pethau drwg yn digwydd fesul tri felly, gwyliwch allan Gaerdydd fyddai ar fy mhen unwaith eto.
Hwyl xx