Nôl yn y stiwdio - am wythnos!
Blwyddyn newydd dda! Gobeithio gawsoch chi Nadolig wrth eich bodd a'ch bod chi heb dorri eich addunedau yn barod (dwi'n nabod sawl un sydd wedi!).
Odd hi'n od bod nôl yn y stwidio wedi'r Nadolig yn enwedig o glywed y newyddion trist am farwolaeth un o fawrion y genedl, Hywel Teifi Edwards ar nos Lun. Pob cydymdeimlad i'w deulu a'i ffrindiau - mawr fydd y golled ar ei ôl yn sicr.
Cerddoriaeth newydd gafodd sylw ar fy rhaglen cyntaf o'r Arddegau (fy enw di ddychymyg i ar gyfer y ddegawd newydd). Roedd yn braf i groesawu Iwan England ac Esyllt Williams i'r stiwdio i adolygu EP newydd gan un o fandiau newydd mwya cyffrous Cymru, Masters in France (Nagazaki) ac albym gysyniadol, amlgyfrannog, hir-ddisgwyliedig ac uchelgeieiol Docfeistr. Gallwch chi wrando nôl ar yr adolygiadau ar yr IPlayer yma.
Dylan Ebeneser sydd i fewn heno - noson chwaraeon ar C2 fel arfer ar nos Fawrth. Edrych mlaen i glywed Sgorgasms o gemau'r wyl ac i weld sut nath Ebzi wneud wrth ddarogan y gemau dros y Dolig.
Mi fyddai i i ffwrdd am bythefnos wedi heno ond wnai'ch gadael chi yn nwylo saff Owen Powell tra bo fi bant. Welai chi cyn hir!
Hef
xxx
SylwadauAnfon sylw
Parch a grym Hef - ansoddeiriau-tastic.....
"albym gysyniadol, amlgyfrannog, hir-ddisgwyliedig ac uchelgeieiol Docfeistr."
Magi xxx