Rhaglen newydd dros nos ar C2
Blwyddyn newydd dda bobol!
'Nol yn y gwaith, ac yn ol yn ei chanol hi yn syth... Nos Fercher yma ma na gyfres newydd yn dechrau ar C2, sef "Sesiynau Unnos C2". Y syniad ydy y bydd rhai o artistiaid amlycaf Cymru yn cyfansoddi, recordio a rhyddhau EP mewn noson! Mi fydd y grwpiau yn cyrraedd am 6pm nos Fawrth, a'r gobaith ydy y bydda nhw wedi sgwennu a recordio pedair can erbyn 8am y bore wedyn. Ar y nos Fercher am 10pm, mi fydd Huw Evans yn cyflwyno rhaglen yn rhoi hanes y noson...
Y grwp fydd wrthi ar gyfer y rhaglen gyntaf fydd Cowbois Rhos Botwnnog, yn cyd-weithio hefo Twm Morus. Mi fedrwch chi glywed sut hwyl ma nhw'n ei gael ar raglenni Magi a Hefin nos fory, a cofiwch wrth gwrs am y rhaglen fydd yn rhoi hanes y noson am 10pm nos Fercher. Mi fydda ni fel criw, a'r bandia, hefyd yn blogio yn fama, ac mi fydd na we-gamera yn y stiwdio i chi gael gweld y bandia wrthi!
Cofion
Gar