Unnos3 - dylanwad ar Diwygiad...
Dwi newydd glywed trac newydd Y Diwygiad ar raglen C2 Huw Stephens, ac yn ddigon rhyfedd ma nhw 'di ddefnyddio sampl nes i chware iddyn nhw bythefnos yn ôl - mae'r trac yn swnio'n wych, trueni bo nhw ddim 'di defnyddio hi yn y gyfres.
Os 'da chi awydd clywed y gân wreiddiol mae hi oddi ar y soundtrack i'r ffilm After The Fox, ac wedi'w chyfansoddi gan neb llai na Byrt (sic) Bacharach o Aberbanc, sir Ceredigion, uffar o hen foi clên a dipyn o dinclar ar yr hen ivories wyddoch chi ddim...
Mr Huw a Dilwyn ar fin recordio esgyrn yr ail gân a ma hi'n swnio fel cân twmpath gwersyll yr Urdd o ganol y bydysawd, hymdingar o stomp fawr cosmig glam.
Ma Dyl Mei a fi di bod yn edrych ar lunie Zoe Deschanel ar y we. Ydi hi'n erbyn y gyfraith i ffeindio allan lle mae hi'n byw, mynd yna, a dilyn hi o gwmpas trwy'r dydd a'r nos ond cadw digon pell i ffwrdd fel bod hi ddim yn gwbo bo fi yna, ond wedyn ar ôl 'chydig ymddangos yn ei gardd gefn hi mewn gwn nos a chrys-tî Meat Loaf (dim byd arall) yn byta bwyd ci o'r tin? Ma Dyl yn gweud bod e'n iawn neud ond mae gen i fy amheuon...
Pethe'n dawel iawn yma heno sy'n neud i fi boeni, dwi'm yn siŵr os di'r band di gadel y stafell recordio eto a ma nhw di dechre gofyn i ni nôl pethe rhyfedd iddyn nhw, 6 slinky, bocs wyau gwag...
³Ò°ùê³Ù.
Ma nhw am neud y recordio'n wahanol i'r ddau sesiwn arall da ni di gal - yn lle gorffen cân a symud ymlaen i'r nesa ma nhw am recordio'r gerddoriaeth i gyd a wedyn gwneud y canu i gyd wedyn. Ddim bod hyn yn unrhywbeth chwildroadol sy'n mynd i newid y ffordd da ni'n recordio cerddoriaeth o hyn allan, just meddwl 'swn i'n gadel chi gwybod likes innit.