Danblagroyd? The Damn Blags!
Unwaith bob mis, yn hytrach na'ch cyflwyno i fand Gwyliwch y Gofod newydd, mi fydda'i yn ail-ymweld a chyn-fand Gwyliwch y Gofod a chael bach o 'catch-up' ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd iddyn nhw ers i ni roi sylw iddyn nhw ar y slot.
Mae rhai o'n cyn-fandiau ni, fel Yr Ods, Promatics, Creision Hud, Colorama, ac Y Zimmermans i enwi dim ond rhai, wedi gwneud cryn enw iddyn nhw eu hunain ar y sîn gerddoriaeth yng Nghymru ers i ni glywed ganddyn nhw am y tro cyntaf fel bandiau Gwyliwch y Gofod, ond mae eraill sydd efallai heb gyrraedd yr un uchelfannau ac heb gyflawni cymaint ag y baswn i wedi ei ddisgwyl iddyn nhw'i wneud.
Wrth gwrs mae pob un o fandiau Gwyliwch y Gofod yn wych, ond mae rhai yn sefyll allan - mi allwn ni weld yn syth fod ganddyn nhw rhywbeth arbennig iawn a'u bod yn dalent amrwd sy'n disgwyl i ffrwydro yn eich clustiau... ac o bryd efallai nad yw rhai bandiau yn llwyddo i gyflawni'r disgwyliadau uchel yna.
Braf iawn felly yw cael cyfle i fynd nol at rhai o'r cyn-fandiau a sgwrsio efo un o'r aelodau am y diweddaraf am y band.
Yr wythnos yma mi wnes i ail-ymweld a Danblagroyd - band gafodd sylw ar C2 yn wreiddiol nol ym mis Mehefin 2008... a gwych oedd cael dal-fyny efo Dan Owens o'r band, a chlywed eu bod bellach nid yn unig wedi newid rhywfaint ar yr aelodau, ond hefyd wedi newid eu henw i 'The Damn Blags' - - ac yn fwy na hynny, mae eu albym cyntaf am fod allan cyn yr haf!
Droeon dwi wedi disgrifio'r gân 'Y Wers' gan y band fel un o'r caneuon mwyaf sgitsogffrenig o wych i gael ei chyfansoddi yn yr iaith Gymraeg, felly roedd disgwyliadau uchel iawn gen i pan ges i glywed fod gan y band gân Gymraeg newydd i ni ei chwarae ar C2 - ac wnaeth 'Diolch am y Tristiwch' ddim siomi.
Mae'n dangos ychydig o newid cyfeiriad efallai ers 'Y Wers' ond yn llawn egni ac yn argoeli'n arbennig o dda ar gyfer yr albym.
Yr wythnos nesa, band newydd sbon fydd yn cael sylw fel band Gwyliwch y Gofod - wela'i chi ar raglen Magi rhwng 8-10pm nos Fawrth felly - a chofiwch, os yda chi mewn band newydd sydd a chaneuon Cymraeg ar myspace, a'ch bod yn awyddus i gael sylw yn y slot Gwyliwch y Gofod yna cysylltwch a ni trwy e-bostio c2@bbc.co.uk.
Tan hynny,
Rob.