Sesiwn Unnos "Sŵn Du" ar gael nawr
Neidiwch draw i wefan C2 nawr i glywed y pump trac gan "Sŵn Du", ein hartistiaid Sesiwn Unnos yr wythnos yma - Ynyr Roberts o Brigyn, Mei Mac y bardd a Rhodri Davies y Telynor. Mae'r EP hefyd yn cynnwys trac wedi ailgymysgu ar y noson gan Geraint Ffrancon.
- Unnos
- Ffilm (Byw fy mywyd)
- Dinistr (Hyll o fyd)
- Darlun (Dacw fi)
- Re-mics (Hanner Nos)
Roedd Huw Evans yma dros nos hefyd yn pryfocio a phoenydio ein gwesteion - felly cofiwch wrando ar y rhaglen Sesiwn Unnos heno am 10pm ar C2 Radio Cymru neu ar yr iPlayer hollalluog.
Neu cariwch mlaen i ddarllen y blog yma i weld be ddigwyddodd ar y noson - wrth iddo ddigwydd!
SylwadauAnfon sylw
falch gweld eich bod chi gyd wedi goroesi. 5 trac yn hanner albym, job da! dwi'n hoffi 'Dinistr' a 'Darlun' yn enwedig. nos da/bore da/pnawn da