Unnos6: Disgwyl Rhywbeth Gwell I Ddod...
5.01am ac ma petha'n gwella! Ma Race Horses wedi gorffen dwy gân, hanner ffordd drwy un arall, ac yn gweithio ar bedwerydd. A dwi'n obeithio y cawn ni remix gan Cian. Ma petha'n gwella... a dwi'n lot mwy ffyddiog rwan nag oeddwn i am 2am.
Ond dal i ddisgwyl be ddaw o'r noson yn y diwedd...
Gar
x
Diweddariad - 5.43am Da ni newydd dderbyn y remix cyntaf gan wrandawr C2 - diolch yn fawr i Ifan Dafydd o'r Derwyddon am aros yn effro tan rwan yn ail-gymysgu un o'r tracia!! Mae modd clywed ei remix o fan hyn, a fyddwn ni'n cyhoeddi tudalen lawn o'r holl ailgymysgiadau sy wedi dod i law ddechrau wythnos nesa.