Unnos6: Gweld Y Llun
Newydd gael sgwrs efo Gaz Jones aka Gavan Lee, sef dylunydd cloriau Race Horses, ac mae e ar hyn o bryd yn creu collage dan gyfarwyddiadau trylwyr Mei "BAD CALYPSO TRIP".
Dwi'n meddwl mai clawr Goodbye Falkenberg ydy un o gloriau gore 2009/10 hyd yn hyn a dwi wrth ym modd efo'r gwaith sy'n cael ei greu heno hefyd.
Mae Race Horses yn gweithio yn hollol wahanol i'r ffordd o'n i'n disgwyl iddyn nhw weithio; dwi'm yn siŵr os yw band sydd wedi arfer gwario gymaint o amser yn trefnu'u cerddoriaeth yn gweithio mor dda dan bwysau'r noson. Wedi dweud hynny dwi'n meddwl mai cân gyntaf eu sesiwn nhw heno ydy'r orau 'da ni di gal hyd yn hyn, felly yn amlwg dwi'n siarad trwy'n nhwll pwps.
Ew odd honna'n frawddeg hir.
Yr ail gân newydd ei gorffen yn dilyn executive decision gan Gaffey "**** ** come on, mlaen i'r nesa".
Ymlaen ac i fyny, fi di Spartacus.