Unnos: Y Da, Y Drwg Ac Yr Hyll
Blog gwadd gan Dyl Mei, un o griw Sesiwn Unnos C2
Gan mod i wastad yn edrych fel Walrws (goo goo jo) yn neud dim trwy'r nos fel arfer, mae Gareth Iwan, un o'n cynhyrchwyr o fri wedi gofyn i fi neud blog am fy
uchafbwyntiau o'r gyfres. Felly, dyma nhw...
1. Huw Evans yn cyrraedd am y tro cyntaf
Na, doedd o ddim fel sîn o ffilm gwael o'r wythdegau lle mae dau hen gyfaill yn rhedeg dros lan y môr, ac yn disgyn i freichiau ei gilydd cyn penderfynu agor siop gwerthu anifeiliaid prin yng Nghriccieth. Beth bynnag, y rheswm dwi'n cyfri hyn fel uchafbwynt ydi y rheswm syml yma - fe wnaethon ni basio gwesty yn Bangor hefo yr enw "Gwynfryn" o'i flaen... a chael llun hefyd. Trist iawn dwi'n gwybod, ond i rai sydd ddim yn fy adnabod i, dwi'n cael pleser o'r pethau symla, fel hel sticeri pêl-droed cynghrair pêl-droed Belarus, taflu cerrig yn erbyn hen fyrddau darts a gwylio Pobol y Cwm.
2. Hoax MC yn deud rhywbeth gwiron
Ar ôl i'r bwyd Tseiniaidd gyrraedd, fe wnaeth Hoax MC adrodd y geiriau anhygoel "mae hyn yn amazing, mae o jyst fel cael Indian take away, blaw chinese dio". Gwych.
3. Brechdanau Jan y Caffi
Ar ddechrau bob sesiwn, mae fi, Huw, Gareth a Dwynwen fel arfer yn cael cyfarfod cyflym am y noson, ac yn fwy pwysig, cael brechdan cyflym wedi ei pharatoi gan yr anfarwol Jan o'r gegin yma yn y Ö÷²¥´óÐã. Fel arfer mae gennym:
Ŵy a mayo, caws a nionyn, tiwna a chyw iâr hefo corn!!
Dwi'n eithaf siŵr fy mod wedi rhoi tua hanner tunnell o bwysa mlaen ers ddechrau'r gyfres. Dwi ddim yn rhoi'r bai ar y bechdannau - mae o yn bennaf i'w wneud hefo'r ffaith mod i'n ddiog ac yn farus. TEW!! TEW!! TEW!! TEW!!
4. Rhodri Davies a'i Delyn Trydanol
Os dwi di cyfri yn iawn, 'da ni di clywed pedwar "drum kit", 5 gitar bas, 9 gitar, 1 bazwci, 1 banjo a lot o leisiau... ond o bell ffordd y peth mwyaf diddorol dwi di glywed ydi telyn drydanol sydd wedi ei addasu gan Rhodri. Fyswn i'n talu miloedd i weld Rhodri yn mynd i'r Ŵyl Gerdd Dant hefo'r offeryn gwallgo yma... un eiliad roedd o'n gwneud sŵn fel cloch eglwys ar fore Sul, yr eiliad nesa yn gneud tôn oedd yn agos iawn i ffidil yn cael ei chwarae gan angel prydferth mewn gwely mawr o blu. Gwrandewch i sesiwn "Sŵn Du" er mwyn clywed y teclyn gwallgo yma.