Unnos6: Methu Dal Y Pwysa
Ma hi'n 3am, a dwi'n meddwl am y tro cyntaf un yn y gyfres, dwi'n teimlo bach dan bwysa!! Wnaeth y Race Horses ddim gorffen y gân gyntaf tan tua 2am, sy'n golygu ein bod ni ar ei hol hi'n ofnadwy. Mae'r ffaith ein bod ni mor hwyr hefyd wedi effeithio ar Cian o'r SFA ac Acid Casuals, sy'n trio ail-gymysgu'r gân gyntaf i gyfrannu i'r EP. Dwi ddim yn siwr a) os gewn ni dair cân gan Race Horses b) os gewn ni remix gan Cian.
Aaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaargh.
Gar
x
ps ar yr ochr ore, mae'r ail gân bellach bron wedi ei gorffen. Ac ma popeth dwi di glywed gan Race Horses heno wedi bod yn wych, hyd yn oed os ydy nhw wedi dechra bach yn ara deg. Felly ma na obaith...
SylwadauAnfon sylw
Beth yw'r deadline i rhoi'r remix i fewn?
Helo - erbyn 8 y bore yn ddelfrydol, ond fyddwn ni dal yn derbyn traciau hyd at ddiwedd yr wythnos gyda'r posibilrwydd o'u cynnwys yn ein rhaglen uchafbwyntiau wythnos nesaf. Sut hwyl ti'n cael arni?