FFLACH! AAA-AAHHH!
Nos Iau am 8yh ar C2 mi fyddwn ni'n gwobrwyo bandiau ac artistiaid gorau Cymru unwaith eto yng ngwobrau roc a phop Radio Cymru 2010. Rhaid dweud llongyfarchiadau mawr i Richard a Wyn Jones, y brodyr y tu nôl i ganeuon cofiadwy Ail Symudiad a sylfaenwyr label recordiau Fflach am ennill gwobr cyfraniad oes eleni. Ma' talent cyfansoddi Richard a Wyn yn adnabyddus i bawb trwy glasuron fel Whisgi a Soda (un o hoff ganeuon Gruff Rhys SFA yn ôl y sôn), Garej Paradwys a Gwena dy wen ond ma stiwdio a label Fflach hefyd di cynhyrchu llwyth o glasuron dros y blynyddoedd. Yn aml iawn, mae hyn di cynnwys artistiaid na fyddai labeli eraill wedi eu rhyddhau ar y pryd felly ma'r brodyr 'di bod yn gefnogwyr brwd o'r sin Gymraeg dros y 30 mlynedd diwethaf.
Dwi di treulio lot o amser i lawr yn stwidio Fflach dros y blynyddoedd tra'n recordio ac yn busnesan ar y bandiau eraill oedd yn y stiwdio. Yn fana 'nath Texas Radio Band, Mozz (aeth mlaen i ffurfio Poppies, Rogues a Racehorses), Yr Anhygoel (aeth mlaen i greu Frizbee), Swci Boscawen, Jess a DOM recordio gynta heb son am artistiaid eraill wnaeth recordio yno fel Clinigol, MC Mabon, NAR a PeswchMattoidzPeswch!
Ta beth, nath Lisa Gwilym gyflwyno y wobr yn arbennig iddynt yn eu gig yn y Morgan Lloyd, Caernarfon yn ddiweddar a gallwch chi glywed y sgwrs hynny a gweddill yr enillwyr nos Iau am 8yh ar C2.
Cofiwch wrando!
Hxxx