Gwobrau RAP 2010
Helo bawb
Ma hi'n dri o'r gloch y pnawn, ac ma popeth yn eitha tawel yn y swyddfa, sy'n fy mhoeni braidd achos mae ganddom ni raglen anhygoel o gymleth heno!!! Mae hi'n noson Gwobrau RAP 2010 ar C2 rhwng 8pm ac 11pm, a da ni i gyd yn edrych ymlaen yn arw.
Mae na lot am fod yn digwydd rhwng rwan a hynny; am 4pm mi fydd y cyflwynwyr yn cyrraedd, ac mi fydda ni i gyd yn cael cyfarfod bach i fynd dros trefn y rhaglen. Ar ol hynny, mi fydda ni'n gadael Magi Dodd a Hefin Thomas, Lisa Gwilym, Huw Evans a Dyl Mei i baratoi, tra da ni'n troi at yr ochr dechnegol....
Pam fod heno am fod mor gymleth? Yn bennaf oherwydd ein bod yn darlledu dwy raglen wahanol o dair stiwdio. Rhwng 8pm ac 11pm ar FM (ac ar deledu digidol) mi fydd Magi a Hefin yn darlledu o'r brif stiwdio, ac yn datgelu pwy sydd wedi ennill be ym mhob categori. Ar yr un pryd, mi fydd Huw Evans a Dyl Mei yn darlledu rhaglen fideo arbennig ar y we yn rhoi sylwebaeth ar yr holl beth, ac yn bwydo i mewn i'r ddwy raglen, mi fydd Lisa Gwilym yn cyflwyno sesiynau acwstic byw o'r stiwdio sesiynau lawr grisiau.
Os aiff popeth yn iawn, fe gewch chi glywed yr holl beth ar FM, a gweld y sylwebaeth a'r sesiynau ar safle we C2. Croesi bysedd, welai chi am 8pm
Cofion
Gar