Ding Dong Dolig Dodd Com...
Ma nifer o bobol (yn eu plith Daf Du, Pa Dodd, Ebenezer Sgrooge...) yn gwylltio wrth weld y Dolig yn cael ei ddathlu yn "rhy gynnar". Dyn nhw ddim yn lico clywed carolau ym mis Tachwedd, ma nhw ond am weld Sion Corn ar Noswyl y Nadolig (a bryd 'ny - ma nhw ond am weld ôl ei draed o dan y simne' ac ôl ei ddannedd ar y mins peis), ac ma gweld coed Nadolig cyn y cynta o Ragfyr yn gneud iddyn nhw fynd yn boncers. "Dim ond wythnos ddwetha odd hi'n noson Guto Ffowc....blah blah blah, rah rah rah"
Yn ffodus i bawb arall - ma tîm Dodd Com yn caru'r Nadolig a tasen ni yn cael ein ffordd fydden ni wedi dechrau chwarae "Cân am Sannau" a "Tinsel ar y Goeden" ganol Awst. Felly ma' heno yn noson arbennig iawn. Heno - mi fydd dau westai arbennig iawn yn troi golau Nadolig stiwdio Dodd Com ymlaen! Mi fydd golau ein stiwdio ni yn rhoi rhai Blackpool a hyd yn oed Las Vegas yn y cysgod! Dechrau dathlu'r Dolig felly - heno ar - dim ond ar bbc.co.uk/c2. Welwn ni chi yna - a welwch chi ni hefyd!